Ansefydlogrwydd gwleidyddol
Wedi i鈥檙 Almaen golli鈥檙 Rhyfel Byd Cyntaf, dihangodd y Kaiser a chyhoeddwyd llywodraeth ddemocrataidd newydd yr Almaen yn Chwefror 1919 yn nhref fach Weimar. Ymgais wirioneddol oedd Gweriniaeth Weimar i greu gwlad democratiaethMath o lywodraeth lle mae pobl yn eu llywodraethu eu hunain neu鈥檔 ethol cynrychiolwyr i lywodraethu ar eu rhan. berffaith.
Y sbectrwm gwleidyddol
Mae pobl asgell chwith eisiau mwy o reolaeth i鈥檙 gweithwyr ac i rannu cyfoeth y wlad yn fwy cyfartal. Roedd y comiwnyddUnigolyn neu wlad sy鈥檔 dilyn syniadau adain chwith Karl Marx am ailddosbarthu cyfoeth. (KDP) ar yr ochr chwith eithafol.
Mae pobl asgell dde eisiau mwy o reolaeth i'r elit traddodiadol, y cyfoethog, y fyddin ayyb. Roedd y Nats茂aid (NSDAP) ar yr ochr dde eithafol.
Roedd eithafwyr y ddwy ochr yn erbyn Gweriniaeth Weimar.
Wynebodd Gweriniaeth Weimar wrthryfela treisgar gan wahanol grwpiau, heb s么n am broblemau economaidd trychinebus. Roedd trais ac anhrefn yn ddi-baid.
- Roedd rhai o bobl yr Almaen yn gomiwnyddion, ac eisiau cyflwyno llywodraeth gomiwnyddol fel un Rwsia. Cafwyd sawl gwrthryfel comiwnyddol. Er enghraifft, yn Ionawr 1919, gwrthryfelodd 50,000 o SpartaciaidYr enw a roddwyd i'r parti comiwnyddol yn yr Almaen ar 么l y Rhyfel Byd Cyntaf. yn Berlin, dan arweiniad y comiwnyddion Rosa Luxemburg a Karl Leibknecht. Gwrthodwyd y gwrthryfela gan y fyddin a鈥檙 Freikorps asgell dde gydag ymladd chwerw ar y strydoedd. Dioddefodd y ddwy ochr golledion sylweddol.
- Ym Mawrth 1920, cafwyd gwrthryfel Putsch Kapp. Cymerodd y cenedlaetholwr adain dde, Dr Wolfgang Kapp, reolaeth dros Berlin gyda鈥檙 nod o sefydlu llywodraeth newydd gan fod y gwrthryfelwyr yn ddig wrth y llywodraeth am lofnodi Cytundeb Versailles. Gwrthododd y fyddin ymosod arno, a dim ond pan aeth gweithwyr Berlin ar streic, wedi ei drefnu gan weithredwyr adain chwith, y cafodd ei drechu.
- Yn 1920, wedi methiant Putsch Kapp, gwrthryfelodd gr诺p parafilwrol Comiwnyddol o鈥檙 enw y Fyddin Goch yn y Ruhr.
- Fe wnaeth cenedlaetholwyr terfysgol lofruddio 356 o wleidyddion y llywodraeth, gan gynnwys Walter Rathenau, y gweinidog tramor, a Matthias Erzberger a fu鈥檔 weinidog cyllid. Byddai鈥檙 barnwyr, llawer ohonynt yn driw i lywodraeth y Kaiser, yn gyson yn rhoi dedfrydau ysgafn i鈥檙 brawychwyr hyn, neu鈥檔 eu gollwng yn rhydd.
Digwyddodd prif argyfwng llywodraeth Weimar yn 1923, pan fethodd yr Almaen dalu iawndaliadIawndal ariannol gan unigolyn, gr诺p neu wladwriaeth i ddigolledu dioddefwyr. yn brydlon, gan roi cychwyn ar gyfres o ddigwyddiadau.
- Ymosododd y Ffrancwyr ar y Ruhr i gymryd nwyddau drwy rym.
- Gorchmynnodd Llywodraeth Weimar y gweithwyr i 鈥測mwrthod yn oddefol", lle roedden nhw鈥檔 rhoi鈥檙 gorau i weithio a chynhyrchu dim y gallai'r Ffrancod eu dwyn.
- Roedd y gweithwyr yn ufuddhau a stopiodd ardal y Ruhr gynhyrchu nwyddau, serch hynny, roedd dal angen cyflogau ar y gweithwyr.
- Argraffodd y llywodraeth fwy o arian ar gyfer y gweithwyr, ond buan iawn y daeth yr arian hwnnw'n ddiwerth oherwydd chwyddiant.
Gorchwyddiant
Daeth llif sydyn o arian i mewn i'r economi ac nid oedd nwyddau'n cael eu cynhyrchu oherwydd streic gyffredinol. Golygai'r ffactorau hyn bod mwy o arian ond llai o nwyddau i鈥檞 prynu. Arweiniodd hyn, ynghyd ag economi gwan oedd wedi ei ddinistrio gan y rhyfel, at orchwyddiant.
Aeth prisiau allan o reolaeth 鈥 er enghraifft, roedd torth o fara, a gostiai 250 marc yn Ionawr 1923, wedi codi i 200,000 miliwn marc erbyn Tachwedd 1923. Aeth arian cyfred yr Almaen yn ddiwerth. Dioddefodd pobl dosbarth canol 芒 chynilion yn arbennig o ddrwg.