成人快手

Effaith y Rhyfel Byd Cyntaf

Pa heriau oedd yn wynebu Gweriniaeth Weimar rhwng 1919-1923?

Them芒u allweddol

  • Effaith Cytundeb Versailles
  • Gwendidau llywodraeth Weimar
  • Ansefydlogrwydd gwleidyddol 鈥 y Spartaciaid, Putsch Kapp a Putsch Munich
  • Gorchwyddiant
  • Digwyddiadau yn y Ruhr 1923

Ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd yr Almaen wedi ei churo a mewn helynt gwleidyddol ac economaidd. Roedd yr economi wedi ei ddifetha ac roedd y Kaiser wedi ffoi o鈥檙 wlad. Roedd nifer o bleidiau gwleidyddol, democrataidd ac eithafol, yn ymladd am rym.

Roedd llywodraeth Weimar, a sefydlwyd ar 么l y Rhyfel, yn cael trafferth rheoli鈥檙 wlad ac roedd yn amhoblogaidd iawn am iddi dderbyn Cytundeb Versailles.

Erbyn 1923 roedd yr Almaen mewn trafferthion gwleidyddol ac economaidd difrifol. Doedd hi ddim yn gallu talu eu iawndaliadau ac yn wynebu trychineb ariannol. Roedd sawl ymgais i ddymchwel y Weriniaeth.