成人快手

Polisi economaidd, cymdeithasol a hiliol y Nats茂aid

Sut gwnaeth polisi economaidd, cymdeithasol a hiliol y Nats茂aid effeithio ar fywyd yn yr Almaen?

Them芒u allweddol

  • Lleihau diweithdra
  • Polisi鈥檙 Nats茂aid tuag at weithwyr
  • Menywod a'r tair K
  • Rheoli addysg
  • R么l mudiad Ieuenctid Hitler
  • Agweddau tuag at grefydd
  • Triniaeth yr Iddewon1933-1939

O dan reolaeth y Nats茂aid, adferwyd yr economi. Roedd y rhan fwyaf o Almaenwyr yn ddiolchgar am swyddi gweddol sicr. Ond roedd gweithwyr wedi colli rhai hawliau. Collwyd y cynnydd roedd menywod wedi ei wneud yn ystod cyfnod y Weimar a cafodd r么l menywod mewn cymdeithas ei ailddiffinio.

Roedd Hitler yn sylweddoli pwysigrwydd cyflyru pobl ifanc yn syniadaeth Nats茂aeth ac roedd ysgolion yn cael eu rheoli. Cafodd mudiadau ieuenctid eu creu hefyd i ddylanwadu ar bobl ifanc yn ystod eu hamser hamdden. Ceisiodd y Nats茂aid reoli crefydd gan bod Hitler yn ystyried bod yr Eglwys a Christnogaeth yn fygythiad pwerus i bolis茂au Nats茂aidd.

Roedd Hitler wedi egluro ei syniadau am hil yn Mein Kampf. Roedd e鈥檔 dadlau mai Ariaid oedd yr hil ddynol oruchaf. Cafodd Iddewon eu herlid yn yr Almaen Nats茂aidd. Credai Hitler bod yr hil Ariaidd o dan fygythiad gan bobl nad oedd yn Ariaid, felly roedd yn rhaid puro yr hil.