Sefydlogrwydd carbonadau metel
Un adwaith cyffredin i unrhyw carbonadSylwedd sy鈥檔 cynnwys 茂onau carbonad. Mae鈥檙 rhan fwyaf o garbonadau yn anhydawdd (megis calsiwm carbonad) ond mae sodiwm carbonad ac amoniwm carbonad yn hydawdd mewn d诺r. metel yw dadelfeniad thermol. Pan fydd carbonadau metel yn cael eu gwresogi, maen nhw鈥檔 dadelfennu i ffurfio ocsid y metel a nwy carbon deuocsid. Dyma rai enghreifftiau.
sodiwm carbonad 鈫 sodiwm ocsid + carbon deuocsid
Na2CO3(s) 鈫 Na2O(s) + CO2(n)
copr(II) carbonad 鈫 copr(II) ocsid + carbon deuocsid
CuCO3(s) 鈫 CuO(s) + CO2(n)
Mae anhawster yr adwaith dadelfennu hwn yn dibynnu ar adweithedd y metel yn y carbonad metel. Wrth edrych ar y ddwy enghraifft uchod, mae sodiwm yn fetel adweithiol iawn. Mae hyn yn golygu bod sodiwm carbonad yn sefydlog iawn a bod angen tymheredd uchel i鈥檞 ddadelfennu. Fodd bynnag, mae copr yn fetel anadweithiol iawn - dyna pam mae鈥檔 ddefnyddiol i wneud pibellau d诺r - ac felly mae copr(II) carbonad yn eithaf ansefydlog ac yn dadelfennu ar dymheredd cymharol isel.
Mae perthynas rhwng sefydlogrwydd y carbonadau metel a chyfres adweithedd y metelau. Yr uchaf yn y gyfres yw鈥檙 metel, y mwyaf adweithiol yw鈥檙 metel, ac felly y mwyaf sefydlog yw鈥檙 carbonad.
Gallwn ni fesur sefydlogrwydd y carbonadau metel drwy wresogi鈥檙 carbonad a byrlymu鈥檙 carbon deuocsid sy鈥檔 cael ei gynhyrchu drwy dd诺r calch. Y cyflymaf mae鈥檙 d诺r calch yn troi鈥檔 llaethog, yr uchaf yw cyfradd dadelfennu鈥檙 carbonad (sy鈥檔 golygu bod y carbonad yn llai sefydlog).