³ÉÈË¿ìÊÖ

Metelau ²¹±ô³¦²¹±ôï²¹¾±»å»å Grŵp 1Adweithiau metelau ²¹±ô³¦²¹±ôï²¹¾±»å»å â dŵr

Mae elfennau Grŵp 1, sef y metelau ²¹±ô³¦²¹±ôï²¹¾±»å»å, i gyd yn adweithio'n egnïol â dŵr i gynhyrchu hydoddiant ²¹±ô³¦²¹±ôï²¹¾±»å»å.

Part of CemegAdeiledd atomig a'r tabl cyfnodol

Adweithiau metelau ²¹±ô³¦²¹±ôï²¹¾±»å»å â dŵr

Mae’r metelau ²¹±ô³¦²¹±ôï²¹¾±»å»å i gyd yn adweithio’n egnïol â dŵr oer. Mae pob adwaith yn rhyddhau nwy hydrogen ac yn cynhyrchu’r metel hydrocsid. Mae cyflymder a ffyrnigrwydd yr adwaith yn cynyddu wrth fynd i lawr y grŵp. Mae hyn yn dangos bod adweithedd y metelau ²¹±ô³¦²¹±ôï²¹¾±»å»å’n cynyddu wrth fynd i lawr Grŵp 1.

Mae disgwyl i ti wybod rhai o bwyntiau diogelwch allweddol yr adweithiau hyn. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • defnyddio sgrin ddiogelwch blastig
  • defnyddio darnau bach o’r metel
  • defnyddio cyfaint mawr o ddŵr
  • defnyddio gefel fach i ddal y metel
  • gwisgo menig rwber trwchus

Lithiwm

Pan mae lithiwm yn cael ei roi mewn dŵr, mae’r lithiwm yn arnofio. Mae’n ffisian yn gyson ac yn mynd yn llai, ac yn diflannu yn y pen draw.

lithiwm + dŵr → lithiwm hydrocsid + hydrogen

2Li(s) + 2H2O(h) → 2LiOH(dyfr) + H2(n)

Sodiwm

Pan mae sodiwm yn cael ei roi mewn dŵr, mae’r sodiwm yn toddi i ffurfio pêl sy’n symud o gwmpas ar yr arwyneb. Mae’n ffisian yn gyflym cyn diflannu.

sodiwm + dŵr → sodiwm hydrocsid + hydrogen

2Na(s) + 2H2O(h) → 2NaOH(dyfr) + H2(n)

Potasiwm

Pan mae potasiwm yn cael ei roi mewn dŵr, mae’r metel yn toddi ac yn arnofio. Mae’n symud o gwmpas yn gyflym iawn ar arwyneb y dŵr. Mae’r metel ei hun yn tanio, ac mae hyn hefyd yn tanio’r nwy hydrogen. Mae hyn yn creu gwreichion a fflam lelog. Weithiau, bydd ffrwydrad bach ar ddiwedd yr adwaith.

potasiwm + dŵr → potasiwm hydrocsid + hydrogen

2K(s) + 2H2O(h) → 2KOH(dyfr) + H2(n)

Potasiwm yn adweithio ac yn dangos fflam porffor mewn powlen o ddŵr

Prawf am nwy hydrogen

I gadarnhau mai hydrogen yw’r nwy sy’n cael ei ryddhau gan yr adweithiau hyn, mae angen profi’r nwy:

  1. Casglu’r nwy mewn tiwb profi.
  2. Rhoi fflam o sblint sy’n llosgi yn nhop y tiwb profi.
  3. Bydd y nwy’n llosgi’n gyflym ac yn gwneud sŵn ‘pop’ gwichlyd.
Diagram yn dangos prawf am nwy hydrogen, gan ddefnyddio sblint pren wedi'i danio a thiwb profi.

Alcalïau cryf

Mae’r hydrocsidau sy’n ffurfio yn yr adweithiau hyn i gyd yn hydoddi mewn dŵr i ffurfio hydoddiannau . Mae’r hydoddiannau hyn yn troi yn borffor, sy’n dangos eu bod nhw’n ²¹±ô³¦²¹±ôï²¹¾±»å»å iawn. Mae alcalïau cryf yn . Mae angen trin y cemegion hyn yn ofalus – dylid gwisgo goglau a menig.