Grŵp 1 – y metelau ï
Yr enw ar elfenSylwedd sydd wedi'i wneud o un math o atom yn unig. Grŵp 1Y golofn fertigol gyntaf o elfennau yn y tabl cyfnodol, gan ddechrau gyda lithiwm a gorffen gyda ffranciwm. Mae’n cael ei alw yn fetelau alacalïaidd hefyd. yw’r metelau ï. Maen nhw’n mynd yn y golofn fertigol ar ochr chwith y tabl cyfnodolCynrychioliad ar ffurf tabl o’r holl elfennau rydyn ni’n gwybod amdanyn nhw yn eu trefn ar sail rhif atomig, ee mae’r holl nwyon nobl i’w gweld ar ochr dde y tabl cyfnodol..
Mae elfennau Grŵp 1 i gyd yn adweithiolTuedd sylwedd i adweithio yn gemegol. iawn. Rhaid eu storio nhw o dan olew i gadw aer a dŵr i ffwrdd. Wrth iddyn nhw adweithio â dŵr, mae elfennau Grŵp 1 yn ffurfio hydrocsidau metel ïpH uwch na 7. (pH dros 7), a dyna pam rydyn ni’n eu galw nhw’n fetelau ï. Hefyd, mae gan y metelau hyn briodweddau ffisegol anarferol i fetelau:
- mae ganddyn nhw ymdoddbwyntiau isel (yn cynyddu i fyny’r grŵp o 28°C ar gyfer Cs i 180°C ar gyfer Li, er bod ymdoddbwyntiau metelau nodweddiadol yn llawer uwch, fel haearn sy’n toddi ar 1,540°C)
- maen nhw’n feddal iawn ac felly mae hi’n hawdd eu torri nhw â chyllell
- mae ganddyn nhw ddwysedd isel (mae Li, Na a K yn arnofio ar ddŵr ac felly mae’n rhaid bod eu dwysedd yn llai nag 1 g/cm3)