Beth Taylor
Mezzo from Scotland - 29 years old.
Beth Taylor from Scotland
Performing Vorrei vendicarmi from Alcina by Handel.
I was born in Glasgow and graduated with distinction from the Royal Conservatoire of Scotland and from the Open University. I am currently studying with several coaches including Jennifer Larmore.
I was the 3rd prize winner of the 2019 Wigmore Hall Competition, the 1st prize winner of the 2018 Gianni Bergamo Classical Music Awards and a grand winner of the 2022 Elizabeth Connell Prize for dramatic voices.
I made my debut at the Glyndebourne Festival as Bradamante Alcina in 2022. The 2022/23 season saw my role debuts as Erda, Schwertleite and Erste Norn in Der Ring des Nibelungen at the Deutsche Oper Berlin and the title role in Rossini’s rarely-performed melodrama, Bianca e Falliero, at Oper Frankfurt, as well as performing Arsace Semiramide and Giuliano Gordio Eliogabalo at Opernhaus Zürich.
On the concert platform I’ve worked with ensembles including the Dunedin Consort, the Ricecar Ensemble and the Orchestra of the Age of Enlightenment, across a wide range of repertoire. I am passionate about art song, particularly early 20th century German and French repertoire, and have given recitals throughout Europe.
I am an arts accessibility advocate and a trained practitioner in supporting and promoting arts and cultural activities between mainstream and assisted environments.
Upcoming engagements include Anna Les Troyens with the Monteverdi Choir and Orchestra, conducted by Sir John Eliot Gardiner and Mendelssohn’s Elijah at the Opéra de Lyon.
In my spare time, I love to read, take long walks, visit museums, plunder charity shops, cuddle other people’s cats and cook for anyone willing to put up with my chattiness.
Beth Taylor
Mezzo, 29 oed, Yr Alban
Cefais fy ngeni yn Glasgow a graddio gyda rhagoriaeth o Conservatoire Brenhinol yr Alban ac o’r Brifysgol Agored. Ar hyn o bryd, rydw i’n astudio gyda sawl hyfforddwr, gan gynnwys Jennifer Larmore.
Enillais y drydedd wobr yng Nghystadleuaeth Neuadd Wigmore yn 2019, y wobr gyntaf yng Ngwobrau Cerddoriaeth Glasurol Gianni Bergamo yn 2018 a fi oedd prif enillydd Gwobr Elizabeth Connell ar gyfer lleisiau dramatig yn 2022.
Fe wnes i ymddangos am y tro cyntaf yng Ng诺yl Glyndebourne fel Bradamante yn Alcina yn 2022. Yn ystod tymor 2022/23, fe wnes i ymddangos am y tro cyntaf fel Erda, Schwertleite ac Erste Norn yn Der Ring des Nibelungen yn Deutsche Oper Berlin a’r brif ran ym melodrama Rossini, Bianca e Falliero, yn Oper Frankfurt (gwaith nad yw’n cael ei berfformio’n aml) yn ogystal â pherfformio Arsace yn Semiramide a Giuliano Gordio yn Eliogabalo yn Opernhaus Zürich.
Ar y llwyfan cyngerdd, rydw i wedi gweithio gydag ensembles sy’n cynnwys y Dunedin Consort, Ensemble Ricecar a’r Orchestra of the Age of Enlightenment, ar draws amrywiaeth eang o repertoire. Rydw i wrth fy modd â chaneuon celfyddyd, yn enwedig repertoire Almaenig a Ffrengig o ddechrau’r 20fed ganrif, ac rydw i wedi rhoi datganiadau ledled Ewrop.
Rwy’n eiriolwr dros hygyrchedd y celfyddydau ac yn ymarferydd hyfforddedig sy’n cefnogi ac yn hyrwyddo gweithgareddau celfyddydol a diwylliannol rhwng amgylcheddau prif ffrwd ac amgylcheddau â chymorth.
Mae'r ymrwymiadau sydd gen i ar y gweill yn cynnwys Anna yn Les Troyens gyda Chôr a Cherddorfa Monteverdi, dan arweiniad Syr John Eliot Gardiner ac Elijah Mendelssohn yn Opéra de Lyon.
Yn fy amser hamdden, rydw i wrth fy modd yn darllen, yn mynd ar deithiau cerdded hir, yn ymweld ag amgueddfeydd, yn mynd i siopau elusen, yn cofleidio cathod pobl eraill ac yn coginio i unrhyw un sy’n gallu ymdopi â fy sgwrsio di-baid.