Main content

Meigui Zhang

Soprano from China - 29 years old.

Meigui Zhang from China

Performing Meine Lippen, sie k眉ssen so hei脽 from Giuditta by Leh谩r.

I was born in Chengdu into a musical family and learned to play piano and violin before turning to singing. I studied at the Shanghai and Sichuan Conservatory of Music, the Mannes School of Music in New York and the Metropolitan Opera Lindemann Young Artist Program.

I am the Grand Prize winner of the 2019 Verbier Festival Prix Yves Paternot and finalist in the 2019 Queen Sonja International Music Competition. I gained second place at the 2020 Opera Index Competition and won the Audience Prize at the 2020 Glyndebourne Opera Cup.

My 2022/23 season featured my role debut as Euridice in San Francisco Opera’s Orfeo ed Euridice, my Atlanta Opera debut as Zerlina Don Giovanni, and a return to the Metropolitan Opera, covering Ilia Idomeneo. In 2021/22, at the Metropolitan Opera, I sang Thibault in Sir David McVicar’s Don Carlos under the baton of Yannick Nézet-Séguin, as well as Barbarina in Le nozze di Figaro. I also made my debut at San Francisco Opera in the lead role of Dai Yu in Bright Sheng’s The Dream of the Red Chamber.

Concert appearances include the soprano soloist in Mozart’s Requiem with the North Carolina Symphony, Brahms’ Requiem with the Calgary Philharmonic, Beethoven’s Missa solemnis with Bard College’s The Orchestra Now, and Bruckner’s Te Deum with New Jersey Symphony.

Future plans include Despina Così fan tutte with the Boston Symphony and Zerlina Don Giovanni at Los Angeles Opera.

I am a certified scuba diver and enjoy hiking. I also love to spend time cooking my hometown Szechuan dishes, especially hotpot.

Meigui Zhang

Soprano, 29 oed, Tsieina

Cefais fy ngeni yn Chengdu i deulu cerddorol. Dysgais ganu'r piano a chwarae'r ffidil cyn troi at ganu. Mi wnes i astudio yn Conservatoire Shanghai a Sichuan, Ysgol Gerdd Mannes yn Efrog Newydd a Rhaglen Artistiaid Ifanc Opera Metropolitan Lindemannn.

Enillais Brif Wobr y Prix Yves Paternot yng Ng诺yl Verbier yn 2019 a llwyddais i gyrraedd rownd derfynol Cystadleuaeth Gerddoriaeth Ryngwladol y Frenhines Sonja yn 2019. Roeddwn i’n ail yng Nghystadleuaeth Opera Index yn 2020 ac enillais Wobr y Gynulleidfa yng Nghwpan Opera Glyndebourne yn 2020.

Roedd fy nhymor yn 2022/23 yn cynnwys fy mherfformiad cyntaf fel Euridice yng nghyflwyniad San Francisco Opera o Orfeo ed Euridice, fy mherfformiad cyntaf gydag Atlanta Opera fel Zerlina yn Don Giovanni, a dychwelyd i Opera'r Mertrapolitan fel dirprwy ar gyfer rôl Ilia yn Idomeneo. Yn 2021/22, yn Opera’r Metrapolitan, fe wnes i ganu rhan Thibault yng nghyflwyniad Syr David McVicar o Don Carlos o dan arweiniad Yannick Názet-Ságuin, yn ogystal â Barbarina yn Le nozze di Figaro. Hefyd, fe wnes i ymddangos am y tro cyntaf gyda San Francisco Opera fel Dai Yu, prif rôl The Dream of the Red Chamber gan Bright Sheng.

Mae f’ymddangosiadau mewn cyngherddau yn cynnwys perfformio fel unawdydd soprano yn Requiem gan Mozart gyda Cherddorfa Symffoni Gogledd Carolina, Requiem Brahms gyda Cherddorfa Ffilharmonig Calgary, Missa solemnis gan Beethoven gyda The Orchestra Now Coleg Bard, a Te Deum gan Bruckner gyda Cherddorfa Symffoni New Jersey.

Mae’r cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn cynnwys rôl Despina yn Così fan tutte gyda Cherddorfa Symffoni Boston a rôl Zerlina yn Don Giovanni yn Opera Los Angeles.

Rydw i’n sgwba-blymiwr ardystiedig ac rydw i’n mwynhau heicio. Rydw i hefyd wrth fy modd yn treulio amser yn coginio prydau bwyd Szechuan o fy nhref enedigol, yn enwedig hotpot.