Main content

Cerddi Rownd 3

Trydargerdd: Arwyddair Ysgol

Penllyn

Falle na fyddi’r cryfaf
Falle na fyddi’n gyntaf,
Ond trwy dy egni galli di
Gyflawni hyd dy eithaf.

Beryl Griffiths (8.5)

Y C诺ps

Un aelwyd ac un teulu, - un hafan
Llawn afiaith i hybu
Pob deall a holl allu
Y to iau yn yr un t欧.

Iwan Bryn (8)

Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘go’

Penllyn

Fe wn, pan gysgaf heno,
na fydd gaeth a feddo go'.

Gruffudd Antur (8.5)

Y C诺ps

Wyn i go’ yw dawn y gwâr,
Cri’r ennyd yw co’r anwar.

Huw Meirion Edwards (9)

Limrig yn cynnwys y llinell ‘Ers ’mod i yn blentyn, rwy’n ofni’

Penllyn

Alergedd i Farmite sydd gen i,
Ers mod i yn blentyn rwy’n ofni
Mae’r doctor ‘di d’eud
Does dim all o wneud
Mae’n beryg o ‘sbredio’ drwy ‘nghorff i.

Aled Jones (8.5)

Y C诺ps

Ers ‘mod i yn blentyn, rwy’n ofni
nad ydw i’n fardd, dwys na digri,
ac yna pan ddaw
hi’n Dalwrn, mae’n fraw
gweld Beirdd ar bob llaw,” medde Ceri.

Geraint Williams (8)

Cywydd cyfarch (dim mwy na 12 llinell) unrhyw bencampwr neu bencampwraig

Penllyn

Hanner canrif ar ôl i Gerallt Lloyd Owen ennill cadair yr Urdd yn Aberystwyth

Rhyw oerni mawr yn ymhel,
rhyw hen 诺r ar hen orwel:
dyna a welwyd unwaith,
a rhith o 诺r wrth ei waith
allan yn herio'r llanw
efo'i holl lais.
Ar fy llw,
heddiw, does ond dynion dall
a g诺r annelwig arall
ar y gorwel: fe'i gwelaf
yn iawn; ei wylio a wnaf,
ei orwel heb ei gyrraedd,
heb sill yn weddill o'i waedd.

Y C诺ps

Pencampwr Ewrop dair gwaith gyda Real Madrid

Ai rhith oedd d’athrylith di?
Ym Madrid am dy draed-di
Mae hual aur, cwmwl ha’n
Dy ddilyn i’r dydd ola
Â’i felan, a’th gyfalaw
Yw barn boeth y Bernabéu.

Gareth, o fewn dy gyrraedd
Mae’r wal sgarlad, gad eu gwaedd,
Gad eu helgyrn chwyrn, chwit-chwat,
Clyw Gymru’n dynn amdanat,
A thro heulwen d’athrylith
Yn goliau hardd* rif y gwlith.

Huw Meirion Edwards (9)

Pennill mawl neu ddychan: Person o Flaen ei Amser

Penllyn

Mor feddw, aeth adre’ yn gynnar
Dadwisgodd wrth wely ei gymar
Mae ganddo frith gof o ryw syndod
Roedd o yno’n y gwely yn barod.

Alwyn Sion (8.5)

Y C诺ps

Mae’r hinsawdd sydd ohoni
yn wenwyn ac yn surni,
ac un ferch fach ar gornel stryd
a’i byd yn genadwri.

Geraint Williams (9)

Cân Ysgafn (heb fod dros 20 o linellau a heb fod yn soned): Plaid Newydd

Penllyn

Does fawr o wahaniaeth pa blaid a ddewisiwn, mae’r rhelyw ohonynt yn ffraeo fel cacwn.
A hawdd ofnadwy yw ymuno a’u rhengoedd dim ond i chwi ‘grafu’ ychydig o bunnoedd.
Ac er mynd i angladd pob gwleidydd o fri mae’n amheus a ddônt hwy nôl i’ch angladd chi.
Ond mi fûm i’n ymdrechu trwy gydol fy einioes i gymhwyso fel aelod o blaid “Dynion Surdoes”.
Nid plaid ydyw hon sydd a lol maniffesto, yr unig beth pwysig yw’r gallu i gwyno.
Mae’n help gallu sipian Wethers Original, os daw gwobr am llipian, rwy’n si诺r o gael medal.
Mi lynnaf wrth Werthers fel troseddwr wrth dag, ble bynnag yr af, rwyf yn ysgwyd fy mag.
Y fi yw yr un sy’n gwneud s诺n ymhob cyngerdd, nes â pawb o’m cwmpas yn fyr eu hamynedd.
Y ‘cabinet’ sy’n llawn o hemeroid crîm a hefyd deep heat i roi ar ben glin.
Yr her, ydyw cadw y ddau ar wahân neu bydd ystyr gwahanol i wleidydd ar dân.
Mi fûm ar dabledi rhag colli fy ngwallt, rhyw oestrogen pils oedden nhw erbyn dallt.
Rwyf i dal yn foel, er eu cymryd drwy’r hâ’ ond mi euthum i fyny ddau seis yn fy mra.
Arferwn, am oriau olchi fy ngwallt cyn mynd allan. Ond bellach, rwy’n hirach yn ‘molchi fy nhalcen.
A rhaid gochel wrth gwrs rhag cael unrhyw…’sblash’…Ble’r oedd “Wash and Go”, mae nawr….go and wash!
Mi wrthodaf injection y ffliw, ’leni eto, er mwyn i mi gael testun arall i gwyno.
Mae Rhyw yn flynyddol yn hynod o saff fel chwarae gêm p诺l hefo pêl a rhaff.
Y peth agosa’ rwy’n gael i brofiad ecseiting yw parcio’r car mewn maes parcio cyfyng.
Rhyw ddydd, bydd hon yn blaid reit lwyddiannus, mae’r aelodau i gyd yn swnio’n anhapus.
Aelodau sy’n cynnal safonau erioed, dim smocio na chwrw cyn bod yn ddeg oed.
Ond tawaf a sôn am fy ‘Mhlaid Newydd’ heno. Am y gwely yr âf, at y wraig i gynfas-io.

Aled Jones (9)

Y C诺ps

Llythyr oddi wrth Owain Glynd诺r at Dafydd Elis-Thomas Aelod Cynulliad (Annibynnol) Meirionnydd Dwyfor)

“O Bennal anfonaf fy llythyr ar f’union
Cyn chwalu o’th yrfa wleidyddol yn deilchion;
Tyrd ataf i Sycharth, cei win a chei groeso,
A drws fel y gwyddost na chafwyd clo arno,
A chawn yno drafod pa sut i sefydlu
Plaid a all achub yr heniaith a Chymru,
Plaid i’n hamddiffyn, un a saif trosom,
A’n gwarchod rhag Brecsit ac Andrea Loathsome*.
Tyrd ataf Dafydd, tyrd a saf yn yr adwy,
A bydd deilwng o’th dras fel Arglwydd Nant Conwy.”

A’r atebiad…

“Rwyf yma’n Llwynwermod a’r gwin sy’n rhagori
A Charles Arthur George sydd i mi yn gwmni;
Fo yw’n Tywysog a phennaeth ein Rhanbarth
Ac ni welaf reswm tros fentro i Sycharth,
I sôn am sefydlu Plaid newydd yng Nghymru,
A dwedyd y gwir dw’i wedi syrffedu
Ar gulni’r holl siarad am iaith a threftadaeth,
Rhyw hen rigmarôl ddibendraw o drafodaeth.
Bydd Brecsit yn her, ond rwyn si诺r o oroesi
Ar draul y Cynulliad heb neb yn fy nghroesi.

*Cyfeirir yma at Andrea Leadsom un o arweinwyr ymgyrch Brecsit. Rhaid fod Owain Glynd诺r wedi cam-glywed yr enw.

Dafydd Morgan Lewis (8.5)

Ateb Llinell ar y Pryd: y broblem fawr yr awr hon/yw problem fawr yr awr hon

Penllyn

Hanes Trôns Boris Johnson
Yw problem fawr yr awr hon

Y C诺ps

Pennal

Colli Pennal y galon
Y broblem fawr yr awr hon

Cwps (0.5)

Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Dryllio

Penllyn

Cyn hyn i gyd.

Bu amser, meddet ti,
pan oedd rhoi d'air
mor solat, gywir
a thipiadau'r cloc
ar ddiwrnod gwaith.
A rhwysg, yn ddim
ond gosod ar y Sul,
y llestri gorau'n dringar
ar y bwrdd,
bryd hynny, gallet godi,
gyda blaen dy fys,
yn hawdd o'r plât,
friwsion celwyddau
rhwng y rhosod pinc.

Mae'n Sul,
a thithau wrth y sinc,
a thipian amser
eto'n gyson, rhoi ei air,
pan deimlest yn y trochion
ymyl lem y plât,
ac wedi ei godi'n sglein o'r d诺r,
canfyddaist
rhwng y rhosod pinc i gyd,
fod craciau bychan, heddiw
ar ei hyd.

Haf Llywelyn (9)

Y C诺ps

I'r bachgen deunaw oed â thraethau gogledd Ffrainc
yn antur gwlyb diferol yn fy mhen,
tu hwnt i orwel sy'n gymylau du i gyd
a'r rheini'n llachar wyn i mi. Fel wyneb Gwen.

Ond mae'r tonnau sy'n ein hebrwng ni'r
genhedlaeth ffraeth, yn un-ac-un-ac-un,
heddiw'n wyllt, a'r cyffro sy'n y gwaed yn hallt
gan ddiferion newydd, diarth. Ond, a finnau'n ddyn,

ac yn llawn hyfforddiant a brafado llanc
a'm gwn fel asen newydd dan y fron
a phader eto'n helmed ar fy mhen
'does dim amheuon, dim amheuon; bron.

A heddiw, y mae'r traethau hyn i gyd
yn dawel eto; dim ond chwarae plant yw'r s诺n
a hwnnw'n llawn s诺n chwerthin. Fel y chwarddai Gwen.
Ond, mae Ewrop eto â'i sibrydion ac yn llawn o udo c诺n...

Dafydd John Pritchard (9.5)

Englyn: Ymweliad

Penllyn

Fel rhith, liw nos, daethost ti'n hwyr a hy
at fy nrws; fe est-ti
i mewn, gan siglo meini
taclus, gwyn fy nhyddyn i.

Gruffudd Antur (9)

Y C诺ps

Ymweliad diweddar Donald Trump â gwledydd Prydain

Rhowch ar led eich carped coch, – ar eich wep
Rhowch wên, ond rhad arnoch
Os gyr hwn un neges groch
Yn driw fel bwled drwoch.

Huw Meirion Edwards (9)

Penllyn – 70.5
Y Cwps – 71