Main content

Cerddi Rownd 1

Trydargerdd: Cais am dreuliau

Tri Iarll

“Nigel yma...nid Owens...Farage!
Wy nôl yn blighty â’r jag yn y garage.
Cofiwch am y siec derfynol,
Auf weidersehen, gyfandir y gorffennol.”

Aneirin Karadog (8)

Beca

Tiwtor y Gymraeg
Prynaf helmed aml-bwrpas
Gyda chuddliw cadw urddas,
Tanwydd, inc a thanc adnodde,
Joch o jin i leddfu’r pwyse.
Ond i’r tân yr â’r talebe.

Rhiannon Iwerydd (8.5)

Cwpled yn cynnwys y gair ‘os’

Tir Iarll

Daw i'n tir dderi ryw ddydd
os yw'r mes ar y meysydd.

Tudur Dylan (9.5)

Beca

Os daw fy ymgais â deg
Ni achwynaf am 'chwaneg.

Eifion Daniels (9)

Limrig : Mi wfftiais rybuddion am eira

Tir Iarll

Mi wfftiais rybuddion am Eira
cans gwn pwy yw’r fenyw brydfertha:
does prin angen Drych
i wybod mor wych
fyddai’r Meuryn mewn teits a mascara

Gwynfor Dafydd (8.5)

Beca

Hen ddyn, ond dyn hapus sydd yma,
Rwy'n hen hen datcu i'r holl blant 'ma,
Ble fyddwn ni heno
Petawn wedi gwrando?
Mi wfftiais rybuddion am Eira.

Eifion Daniels (8.5)

Cerdd ar fesur yr englyn toddaid : Pererindod

Tir Iarll

(i weld bedd hen wncwl a laddwyd ganrif yn ôl yn y Rhyfel Mawr)
Mynnwn fod rhaid i minnau ei ffeindio,
A do, ffeindiais lwybrau
Hen wncwl ymysg y llanciau, lle roedd
Yn un o gannoedd yn eu hugeiniau.

Yr oedd y dail yn rhuddo'n y fynwent,
A'r fan wedi'i thwtio
 gofal - y coed am gofio'r meirwon,
Y rhesi o ddynion arhosodd yno.

Yn y Somme, roedd La Boiselle yn galw,
A'i thrigolion tawel;
Yno'r es, cyn dweud ffarwél i'r beddau
Hwythau'n llawn tadau na allent adel.

Emyr Davies (10)

Beca

Pererindod i Dyddewi
O fyd y cyfrifiadur - hualau
Technoleg ddidostur,
Dewch am dro i'r Benfro bur - mynnwch daith
I Ddyfed eilwaith i leddfu dolur.

Bobol wâr daear Dewi - sy'n gwahodd
Swn y Gair sydd drosti.
Pery solas Preseli - tegwch sydd
Yn eithin y rhosydd maith yn rhesi.

Am heddwch! Ffeiriwch y ffôn - a'i dynfa
Am donfedd 'r awelon.
Anadlwch aer cymodlon - i'ch rhyddhau
O rwymau'r oesau a phob ymryson.

Wyn Owens (9.5)

Pennill ymson wrth dorri cacen

Tir Iarll

Rwy’n meddwl mod i’n gogydd mawr
fel Michelle Roux neu Ramsay,
ac yn lle dilyn y rysait
mae’n well gen i arbrofi.
Ond O! ’r drychineb ddaeth i’m rhan
wrth geisio blasu tafell,
ac yn lle torri’r gacen hon
fe dorrais innau’r gyllell.

Tudur Dylan 8.5

Beca

“Cei di dorri, ‘wna i ddewis”.
Dyna’r drefn pan we ni'n blant,
Ond yn awr rwyf rhywfaint callach -
Dim neu bopeth, synnai'n sant.

Rachel James (9)

Cân ysgafn ‘Rwy’n gweld o bell’

Tir Iarll

Pan oeddwn innau dwtsh yn iau nag ydw i erbyn hyn,
roedd gen i lygaid gorau’r byd, a chytunwn â Watcyn Wyn.

Fe allwn weld fan hyn fan draw, a hydnoed rownd corneli,
a gweld hen gloc Mynachlog Ddu o’r cei yn Felinheli.

Fe allwn weld y byd yn troi, a gweld y manion lleia,
A gallu gweld gwahaniaeth rhwng dwy bluen fach o eira.

Daeth tro ar fyd, diogi ddaeth i lethu’r llygaid hyn,
a dwi di dod i ddechrau dallt mai rong yw Watcyn Wyn.

Ac wrth y siop-i’m-gwneud-yn-well, gwyddwn fy mod mewn mes
wrth fethu dweud gwahaniaeth mwy rhwng Vision ac Express.

Heneiddio’r wyf, mae hyn yn wir, ac ai dyma ddechrau’r trwbwl
fod angen sbecs fel dwy bot jam imi allu gweld o gwbwl.

Tudur Dylan (9)

Beca

Rwy'n gweld o bell y diddie'n dwâd
Y bydd pob artist shimpil
Yn galled codi mil neu fwy
Am stôl dair cwês fach whingil.

Cewch osod bocs mowr gwag di-liw
Yn blwmp ar lawr yr oriel
A'i alw'n 'WACTER YSTYR' wir!
Fel 'ny fydd eno'n sbwriel.

Cewch ddwâd â blocs a'u rhoi mewn peil
Heb unrhyw swae na ch'wili,
A'u galw'n 'GERDDI CONCRIT' glei
I'w trafod rhint yn gili.

Daw'r rhei sy'n dyall y pethe hyn
Jiw safion! i bengogo
A siarad gered am FYD CELF
O Fôn lawr i Shir Bemro.

Cewch agor arddangosfa fowr
A dwâd â'ch holl dwmbwriach,
Ond peidwch gweud wrth neb, da chi,
Na senyn nw ond SOTHACH.

Wyn Owens (9)

Llinell ar y Pryd: Mae rhyw ddweud bod storm ar ddod

Tir Iarll

Mae rhyw ddweud bod storm ar ddod
Yn noddfa celf Eisteddfod

0.5

Beca

Wy’n nerfus, mae’n anorfod
Mae rhyw ddweud bod storm ar ddod

Telyneg: ‘Gair’

Tir Iarll

Roeddwn i’n gwybod ei fod wedi bod
yn cosi cefn dy wefus ers tro;
a sawl gwaith fe’i gwelais yn dawnsio ar flaen dy dafod
cyn cilio nôl i’r fan ym mhlygion dy fynwes
na wn i’n iawn na’i hyd na’i lled.

A do, bûm yn disgwyl amdano â chlustiau Job
drwy oriau’r chwarae a’r sgwrsio.
Nid aros. Disgwyl. Roedd gobaith imi’n gwmni.

Ond pwy grede’ y byse’ fe’n dod
pan oedd fy nwylo mewn padell o olchon sebon
a’m meddwl ar dasgau’r dydd?
S诺n crisial rhwng sisialau.
Trois.
Jyst mewn pryd i ddal y paladr golau a daflodd cannwyll dy lygaid ataf
cyn diffodd mewn parabl na fyddai fyth eto’r un fath.

Taw piau hi. Am y tro. Pwy grede’ hen un mor wirion?
Na. Ddweda’i ddim wrth neb.
Dim gair.

Mererid Hopwood (9.5)

Beca

(Credir bod y gair “mam”, yn un o eiriau cyntaf y ddynoliaeth a’i fod yn deillio o eistedd o amgylch tân.)
Mae’r grât wedi'i dofi,
Y llenni’n dwt,
a’r dydd yn diffodd,
Nos da, cysga’n glud fy mabi.
Rhof gusan a breuddwydiaf am ein hyfory -
lle crwydrwn yng nghesail bro a’r gwres
yn s诺n y brain a’r cricsyn.

“Mam!”
Drymia a sgrechia’r nos
Gan gri’r llafnau,
A’r awyr yn llinellau o dân.

O dawelwch oer y rwbel daw drôn yr holi:
“Mam?”
A fflam yr aelwyd yn fud.

Rhiannon Iwerydd (9)

Englyn i unrhyw faes chwarae penodol

Tir Iarll

Roman Camp, Bangor
Unwaith fe ymestynnai - yn gae hwy
nag oes, ond fe'n twyllai
drwy'r amser, a llawer llai
ydyw'r man uwch d诺r Menai.

Tudur Dylan (9.5)

Maes chwarae'r plant, Mynachlog-ddu
Er y c'wilydd a'r cilio - o'r ddwyiaith *
Ar ddaear Sir Benfro,
Er mor frau yw rhwymau'r fro
O un i un dônt yno.

* (Cymraeg gogledd y Sir a thafodiaith Saesneg y de)

Wyn Owens (9)

Tir Iarll 73
Beca 71.5