|  |
 |
 |
 |
 |  |  |  |
Creithiau'r Streic Fawr - 100 mlynedd yn ddiweddarach... |
 |
Enw lle Hebreaidd yw Bethesda, un o nifer a fabwysiadwyd gan bentrefi Cymraeg a oedd â’u crefydd anghydffurfiol yn hoffi menthyg awdurdod a mawredd teitlau Beiblaidd ar gyfer cymunedau yn ogystal ag enwau personol.
 Y Victoria Inn, Bethesda, adeilad y bu streicwyr yn ymosod arno oherwydd ei fod yn gwerthu cwrw i rai dorrodd y streic. © 成人快手 | Ystyr 'Bethesda' yw "Ty Heddwch", ond doedd y gymuned ddim wedi llwyddo i fod yn hynny o bell ffordd yn ystod tair blynedd chwerw’r streic. Canrif gyfan yn ddiweddarach, mae pobl y pentref yn dal i gofio pa deuluoedd oedd yn streicwyr a pha rai oedd yn "Fradwyr".
Er bod y diwydiant llechi Cymreig ei hun wedi crebachu i fod yn rhan fechan iawn o'i faint gwreiddiol, mae atgofion a gwerthoedd y diwydiant, a'r cymunedau a ffurfiwyd i'w wasanaethu, yn dal yn fyw.
Mae'r corff o lenyddiaeth sy'n edrych ar yr angerdd a'r gwrthdaro a achoswyd gan y streic wedi tyfu dros y blynyddoedd, ac ym mis Rhagfyr 2003 cyhoeddwyd dau lyfr newydd am y streic yn ystod blwyddyn ei 100ed pen-blwydd. Mae nofel Gymraeg ddiweddaraf Eigra Lewis Roberts Rhannu'r Ty yn adrodd stori'r rhaniadau a achoswyd gan yr anghydfod.
Hefyd mar Gwasg Gomer wedi ailargraffu cyfrol glasurol John Sheridan Jones' (newyddiadurwr ar y Daily News ) a ysgrifennodd ym 1903 ac sy'n adrodd hanes y streic, What I Saw in Bethesda. Mae'r llyfrau hyn, ac eraill tebyg iddyn nhw, yn dystiolaeth o'r diddordeb parhaus mae'r streic yn ei fynnu.
Words: Grahame Davies
Eich sylwadau
| |
Argraffu tudalen |
 |  |  |  |
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.
Read more > |
|  |  |

 |
|
 |
|
 |
|
 |
|
 |
|
Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol. |
|  |  |
|  |  |

|  |
|