|  |
 |
 |
 |
 |  |  |  |
Creithiau'r Streic Fawr - 100 mlynedd yn ddiweddarach... |
 |
 Y Chwarel Lechi hon sydd wedi ffurfio cymeriad yr ardal a’i phobl. © 成人快手 | Yn rhannol, y cyfychluniau sy'n gyfrifol. Profodd tirwedd fynyddig Cymru i fod yn rwystr i oresgynwyr Sacsonaidd, yna i Normaniaid, ac fe amddiffynnodd ddatblygiad cymdeithas Geltaidd ar gyrion y genedl-wladwriaeth gryfaf yn y byd yn ei dydd.
Hefyd mae'r cynnwys yn gyfrifol. Yn ystod y Chwyldro Diwydiannol, darparodd y mynyddoedd hyn y cyfoeth mwynol a adeiladodd genedl fodern Cymru ac a ddylanwadodd yn fawr ar y strwythur gymdeithasol, y dosbarthiad, y boblogaeth a'r ymddangosiad ffisegol mae'r wlad wedi ei etifeddu heddiw.
Cymoedd de Cymru yw'r esiampl berffaith o hyn, ond mae hefyd yn wir am rannau o orllewin Cymru, o ogledd-ddwyrain Cymru, ac yn enwedig o ardaloedd chwarelyddol gogledd-ddwyrain Cymru, lle mae gweithiau oriel cenedlaethau o chwarelwyr wedi trawsffurfio'r mynyddoedd i fod yn sigwratau llwyd grisiog.
Yn ei ddydd roedd diwydiant llechi Cymru unwaith yn cyflogi miloedd o bobl, yn anfon ei gynnyrch o gwmpas y byd ar y rheilffyrdd a'r môr, gwnaeth rhai buddsoddwyr yn gyfoethog iawn, a gwnaeth eraill yn fethdalwyr. Yn anterth y diwydiant, yn rhan olaf y 19eg Ganrif, fe drodd yr elw anferth a wnaed o lechi ardaloedd anferth o Ogledd Cymru i fath o Klondike Celtaidd, gyda hapfuddianwyr, cwmnïau a grwpiau bychain o weithwyr mentrus yn agor degau o gloddfeydd newydd yn y gobaith o wneud ei ffortiwn o aur llwyd Gwynedd.
O gwmpas y gweithiau hyn y tyfodd y cymunedau a gyflenwodd y gweithlu - llefydd tebyg i Blaenau Ffestiniog, Talysarn, a Bethesda.
Words: Grahame Davies
Eich sylwadau
| |
Argraffu tudalen |
 |  |  |  |
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.
Read more > |
|  |  |

 |
|
 |
|
 |
|
 |
|
 |
|
Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol. |
|  |  |
|  |  |

|  |
|