|
|
|
| | | |
Allt-y-Bela - "Cystadlu â'r teulu Edwards'" |
|
Dirywiad a Chwymp
© Trwy Garedigrwydd Cyngor Sir Sir Fynwy
|
Cafodd Allt-y-Bela ei drosglwyddo i nifer o ddisgynyddion, a chafodd ei werthu i ffermwr lleol yn yr 20ed ganrif. Erbyn y 1980au, roedd yr adeilad yn anghyfannedd llwyr, â'r tor yn cael ei ddal i fyny gan sgaffaldiau dros dro a'r grisiau.
Wedi ei adael yn segur am dros 30 mlynedd, ac wedi ei ddefnyddio fel storfa grawn a fferm, roedd angen atgyweirio dybryd ar y tor. Daeth cyflwr Allt-y-Bela i sylw Cyngor Sir Fynwy, a geisiodd wella'r sefyllfa trwy gyflwyno rhybuddion atgyweirio a dilyn y dulliau o weithredu cyfreithiol a fynnir gan statws rhestredig yr adeilad. Ond, roedd y rhain yn aflwyddiannus, ac yn 2001, cyflwynodd y Cyngor orchymyn pryniant gorfodol ar yr adeilad, a'i drosglwyddo i ofal Ymddiriedolaeth Spitalfields ar gyfer ei adfer.
Y Llwybr i Welliant
Elusen yw'r Ymddiriedolaeth Spitalfields sy'n adfer adeiladau o bwys pensaernïol a hanesyddol. Eglura Tim Whittaker, Gweinyddwr yr Ymddiriedolaeth, sut mae'r Ymddiriedolaeth yn gweithio:
"Mae gennym arbenigedd ac rydym yn gallu gofyn am grantiau, ond does gennym ni mo'r arian i brynu'r adeiladau - dyma un o'r rhesymau rydym yn cymryd adeiladau ar ddiwedd eu hoes. Rydym yn arbenigo mewn adeiladau na fyddai unrhyw un arall yn eu hadfer".
Pan fo hynny'n bosibl mae'r Ymddiriedolaeth yn ceisio atgyweirio - nid rhoi rhywbeth yn lle - elfennau o'r adeilad, gan ddefnyddio defnyddiau traddodiadol megis cerrig calch yn hytrach na sment. Bydd yr Ymddiriedolaeth yn treulio'r 2 neu 3 blynedd nesaf yn atgyweirio ac yn adfer y to, y waliau a'r lloriau gan ddefnyddio'r technegau a'r defnyddiau gwreiddiol.
Dyma brosiect cyntaf Ymddiriedolaeth Spitalfields y tu allan i Lundain. "Fel elusen, fel arfer rydym yn cael adeiladau yn Nwyrain Llundain wedi eu rhoi i ni, ond ar hyn o bryd does gennym ni ddim prosiectau yn Llundain. Mae Allt-y-Bela yn bwysig i Gymru yn hanesyddol ac yn bensaernïol" meddai Mr Whittiker
Er ei fod yn gweld ymhell ar y pryd, ni allai Roger Edwards fod yn ymwybodol o bwysigrwydd ei dy i ni heddiw. Gellir gweld nodweddion a welwyd gyntaf yn Allt-y-Bela mewn adeiladau mwy diweddar yn Sir Fynwy ac yn Ne Ddwyrain Cymru.
Gyda chymorth Cyngor Sir Fynwy ac Ymddiriedolaeth Sptitalfields, gobeithir newid yr adeilad yn ôl i fod yn gartref. Dywedodd Fiona Cairns o Gyngor Sir Fynwy: "Defnydd gwreiddiol adeilad hanesyddol yw ei ddefnydd gorau", a gobeithia "y bydd yr adeilad yn troi'n gartref unwaith eto." Cliciwch yma i gael gweld Allt-y-Bela dros y 50 mlynedd diwethaf, y gwahanol gyfnodau yn ystod ei atgyweirio, yn ein oriel luniau.
| Print this page |
| | | |
Mae Rhyngweithio yn adran ar eich cyfer chi. Ymunwch â'r gymuned - anfonwch eich erthyglau, sgwrsiwch, a dywedwch wrthyn ni beth mae 'treftadaeth' yn ei olygu lle 'rydych chi'n byw.
Ewch i Ryngweithio > |
| | |
|
|
|
|
|
|
Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol. |
| | |
| | |
| |
|