|
|
|
| | | |
Allt-y-Bela - "Cystadlu â'r teulu Edwards'" |
|
Yr hyn sy'n ei Wneud yn Arbennig
Roedd i'r ty canoloesol gwreiddiol un llawr a chroglofft, ac roedd yn dy hir nodweddiadol â ffrâm nenfforch, yn cartrefu'r teulu a'r anifeiliaid i gyd o dan yr un to. Yn ogystal â bod yn swnllyd, yn frwnt ac yn arogleuo, doedd yna ddim preifatrwydd bron i aelodau'r teulu. Yn hytrach nag addasu'r hen adeilad mabwysiadodd Edwards syniadau newydd ei gyfnod gan adeiladu cyfres o ystafelloedd preifat, un ar bob llawr, wedi eu cynnwys mewn tor a ychwanegwyd at dde'r neuadd hir wreiddiol.
© Trwy Garedigrwydd Cyngor Sir Sir Fynwy
| Ffyniant amaethyddol oedd y catalydd i ddulliau adeiladu'r Dadeni, yn enwedig ffermio tir âr, wrth i brisiau gwenith godi'n gyson yn ystod y 16eg ganrif. Roedd Roger Edwards yn gwybod y byddai ei adeilad yn adlewyrchu peth o'r poer a'r cyfoeth roedd wedi llwyddo i'w casglu fel ffermwr a thirfeddiannwr yn yr ardal. Er mai oes o arddangos oedd y Dadeni, roedd yn eithriad adeiladu tor ar gyfer y pwrpas hwn yn unig ac nid ar gyfer amddiffyn. Yn fwy annealladwy byth roedd tor Edwards wedi ei guddio'n llwyr gan ddyffryn Wysg, heb fod ymhell o'r hen ffordd a redai o Frynbuga i Gas-Gwent, a dim ond o fannau agos iawn y gellid ei weld.
| Print this page |
| | | |
Mae Rhyngweithio yn adran ar eich cyfer chi. Ymunwch â'r gymuned - anfonwch eich erthyglau, sgwrsiwch, a dywedwch wrthyn ni beth mae 'treftadaeth' yn ei olygu lle 'rydych chi'n byw.
Ewch i Ryngweithio > |
| | |
|
|
|
|
|
|
Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol. |
| | |
| | |
| |
|