成人快手

Ymdrechion i herio'r penderfyniad i ryddhau Gafoor wedi methu

Jeffrey GafoorFfynhonnell y llun, Media Wales
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Jeffrey Gafoor ei garcharu yn 2003

  • Cyhoeddwyd

Mae disgwyl y bydd llofrudd Lynette White yn cael ei ryddhau o'r carchar ar bar么l yn sgil methiant ymdrechion i herio penderfyniad y Bwrdd Par么l.

Cafodd Jeffrey Gafoor ei garcharu yn 2003 am lofruddiaeth Lynette White ym 1988.

Fe gafodd Gafoor ei garcharu am oes gyda gorchymyn iddo dreulio o leiaf 13 mlynedd dan glo. Daeth y cyfnod yna i ben yn 2016.

Ym mis Hydref daeth Bwrdd Par么l i鈥檙 casgliad ei bod hi'n ddigon saff i ryddhau Gafoor, a hynny ar 么l gwrthod pum cais blaenorol.

Dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder: "Ar 么l ystyried yn ofalus, yn anffodus dydyn ni heb ddod o hyd i unrhyw reswm cyfreithiol i herio penderfyniad y Bwrdd Par么l."

Cafodd Lynette White ei thrywanu dros 50 o weithiau mewn fflat yn nociau Caerdydd ar Ddydd Sant Ffolant 1988.

Aeth pump o ddynion gerbron llys yn 1990 wedi'u cyhuddo o'i lladd.

Cafodd tri ohonyn nhw - Tony Paris, Yusef Abdullahi a Stephen Miller, a ddaeth yn adnabyddus fel Tri Caerdydd - eu carcharu am oes yn 1990, cyn cael eu rhyddhau ar ap锚l yn 1992.

Yn 2003 fe wnaeth Heddlu De Cymru ddefnyddio technoleg DNA newydd i'w harwain at y llofrudd go iawn.

Cyfaddefodd Gafoor iddo drywanu Ms White mewn ffrae dros 拢30.

Arweiniodd yr ymchwiliad cychwynnol i farwolaeth Ms White at un o鈥檙 achosion llys troseddol hiraf ym Mhrydain erioed.

'Ddim yn syndod'

Dywedodd John Actie, un o'r dynion gafodd eu cyhuddo ar gam o lofruddio Lynette White, ei fod o wedi gofyn i fargyfreithiwr herio'r penderfyniad i ryddhau Gafoor.

"Ro'n i'n disgwyl hyn, dydi o ddim yn syndod. Dwi wedi 'neud fy ngorau.

"Roedden nhw wastad ei ryddhau, does dim byd yn fy synnu ragor."

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder: "Mae'n meddyliau gyda theulu a ffrindiau Lynette White wrth iddyn nhw brosesu'r newyddion anodd yma.

"Fe fydd o (Gafoor) yn destun amodau trwydded llym, a bydd yn cael ei oruchwylio yn ofalus ar 么l iddo gael ei ryddhau.

"Os ydyw'n torri'r rheolau, yna bydd yn dychwelyd i'r carchar."

Pynciau cysylltiedig