成人快手

Canrif ers i Gaerdydd golli'r gynghrair ar gyfartaledd goliau

Cerflun Fred KeenorFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae gan Fred Keenor, capten y clwb n么l ym 1924, gerflun y tu allan i Stadiwm Dinas Caerdydd

  • Cyhoeddwyd

Mae buddugoliaeth Clwb 笔锚濒-诲谤辞别诲 Caerdydd yn rownd derfynol Cwpan FA Lloegr ym 1927 - yr unig dro i d卯m o du hwnt i Loegr ennill y tlws - yn uchafbwynt amlwg yn hanes y clwb.

Ond, dim ond tair blynedd ynghynt, fe ddaeth yr Adar Gleision o fewn trwch blewyn i ennill prif adran Lloegr, ond fe wnaethon nhw golli allan ar gyfartaledd goliau.

Ar benwythnos olaf tymor 1923/24, roedd Caerdydd angen buddugoliaeth gartref yn erbyn Birmingham i sicrhau'r gynghrair - ond ar 么l methu cic o'r smotyn fe orffennodd y g锚m yn ddi-sgor.

A chyda Huddersfield, y t卯m oedd yn mynd benben a Chaerdydd am y bencampwriaeth, yn ennill o 3-0 - fe orffennodd Caerdydd yn ail gan fod un g么l o wahaniaeth rhwng y ddau glwb.

Canrif yn ddiweddarach, dyma hanes y tymor lle bu *BRON i d卯m o Gymru ennill prif adran Lloegr.

Fe enillodd Caerdydd ddyrchafiad i'r Adran gyntaf - y brif haen ym mh锚l-droed Lloegr ar y pryd - yn nhymor 1920/21.

Dan arweiniad Fred Stewart 鈥 oedd yn rheolwr ar y clwb am dros 20 mlynedd 鈥 fe wnaeth Caerdydd sefydlu ei hunain fel t卯m oedd yn gallu cystadlu tua brig y tabl.

Ymhlith s锚r mwyaf y t卯m oedd Fred Keenor, y capten a gododd tlws FA Lloegr yn 1927. Heddiw, mae cerflun o Keenor wedi ei osod y tu allan i Stadiwm Dinas Caerdydd.

Roedd yr ymosodwr, Len Davies, yn un arall o hoelion wyth y t卯m - a hyd heddiw, fo ydi'r prif sgoriwr yn hanes y clwb gyda 181 o goliau rhwng 1920 a 1931.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Neil Jensen wedi ysgrifennu llyfr am y timau gorau i foddi wrth ymyl y lan

Mae Neil Jensen yn awdur sydd wedi cynnwys Caerdydd yn nhymor 1923/24 yn ei lyfr 'The Great Uncrowned' - sy'n olrhain hanes rhai o'r timau gorau sydd wedi boddi wrth ymyl y lan.

"Roedd Caerdydd yn anelu am y bencampwriaeth drwy gydol y tymor, ond o bosib oherwydd blinder a'r ffaith bod carfan fach ganddyn 'da nhw, fe wnaethon nhw ddechrau disgyn am yn 么l," meddai.

Prif gystadleuwyr yr Adar Gleision oedd Huddersfield dan arweiniad Herbert Chapman, rheolwr sy'n cael ei gydnabod fel un o'r rhai mwyaf dylanwadol yn hanes p锚l-droed Prydain.

Gyda dim ond un g锚m yn weddill, roedd gan Gaerdydd bwynt o fantais ar frig y tabl - mewn oes lle'r oedd timau yn cael dau bwynt am fuddugoliaeth.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Tair blynedd wedi'r siom o orffen yn ail yn y gynghrair, fe enillodd Caerdydd Cwpan FA Lloegr

鈥淩oedd y sefyllfa yn un hynod o dynn鈥 meddai Mr Jensen, "Roedd Huddersfield angen ennill o dair g么l, a gobeithio bod Caerdydd methu ennill 鈥 ac wrth gwrs, yn union hynny ddigwyddodd!鈥

Fe wnaeth Len Davies fethu cic o'r smotyn yn erbyn Birmingham - y tro cyntaf iddo gymryd cic o'r smotyn yn ei yrfa, yn ol Terry Phillips, hanesydd Clwb Pel-droed Caerdydd.

Roedd y ffaith bod Huddersfield wedi ennill 3-0 yn erbyn Nottingham Forest yn golygu bod ganddyn nhw gyfartaledd goliau o 0.024, mwy na Chaerdydd, ac felly'r Terriers oedd y pencampwyr.

"Pe bai gwahaniaeth goliau, y system 'y ni'n defnyddio nawr, mewn lle, byddai Caerdydd wedi ennill y gynghrair - roedden nhw wedi sgorio mwy o goliau."

Beth yw 'cyfartaledd goliau'?

  • O 1888, pan gafodd Cynghrair 笔锚濒-诲谤辞别诲 Lloegr ei ffurfio, tan 1976, roedd cyfartaledd goliau yn cael ei defnyddio i wahanu timau oedd yn gorffen ar yr un nifer o bwyntiau.

  • Roedd y ffigwr yn cael ei gyfrifo drwy rannu nifer y goliau wnaeth y t卯m sgorio, gyda nifer y goliau wnaethon nhw ildio.

  • Roedd nifer yn credu bod y system yn annog timau i chwarae p锚l-droed mwy amddiffynnol, gan fod peidio ildio goliau yn debygol o arwain at gyfartaledd goliau uwch.

  • Cafodd y system ei ddiddymu ym 1976, a'i ddisodli gan wahaniaeth goliau - y system sydd yn dal i gael ei ddefnyddio heddiw.

Dim Caerdydd yw'r unig d卯m i golli allan oherwydd cyfartaledd goliau.

Bron i 30 mlynedd yn ddiweddarach, ym 1953, fe wnaeth Arsenal ennill y brif adran gan drechu Preston North End ar gyfartaledd goliau, tra bod Manchester United wedi gwneud yr un peth i Leeds ym 1965.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Terry Phillips yn arbenigo yn hanes Clwb 笔锚濒-诲谤辞别诲 Caerdydd

Er iddyn nhw fethu a sicrhau'r bencampwriaeth, roedd y croeso i'r t卯m wedi iddyn nhw ddychwelyd i Gaerdydd yn syfrdanol, yn 么l Mr Jensen.

"Fe gyrhaeddon nhw'r ddinas ar 么l 22:00 ac roedd yna filoedd ar filoedd o bobl y tu allan i'r orsaf drenau i'w croesawu.

"Fe wnaeth Len Davies geisio dianc heibio'r dorf, ond cafodd y cefnogwyr afael arno, a'i gario allan o'r orsaf ar eu hysgwyddau."

Tair blynedd yn ddiweddarach, roedd Keenor a Davies yn rhan o'r t卯m wnaeth guro Arsenal, a Herbert Chapman, yn rownd derfynol cwpan FA Lloegr.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae hanes y clwb yn ysbrydoliaeth i'r garfan bresennol, meddai Erol Bulut

Yn 么l rheolwr presennol Caerdydd, Erol Bulut, mae'r hanesion yma o oes aur y clwb yn dal i ysbrydoli'r t卯m heddiw.

"Mae hanes clwb p锚l-droed, unrhyw glwb p锚l-droed, yn hollbwysig," meddai.

鈥淒wi鈥檔 ymwybodol o hanes Clwb 笔锚濒-诲谤辞别诲 Caerdydd鈥 mae鈥檔 bwysig i gofio'r pethau positif o'n hanes gan ei fod yn ein hysbrydoli.

"Mae鈥檔 bwysig i fi fel hyfforddwr, mae鈥檔 bwysig i鈥檙 chwaraewyr ac, wrth gwrs, i鈥檙 cefnogwyr hefyd.鈥

Yn y 100 mlynedd ers colli'r gynghrair, mae鈥檙 clwb wedi mynd i fyny ac i lawr o brif gynghrair Lloegr sawl tro, ond tybed pa effaith fyddai un g么l arall nol yn 1924 wedi ei gael ar hanes yr Adar Gleision.