成人快手

'Modd osgoi' marwolaeth bachgen gafodd sepsis - cwest

Dylan CopeFfynhonnell y llun, Llun teulu
  • Cyhoeddwyd

Byddai bachgen naw oed wedi goroesi pe na byddai wedi cael ei "yrru adref mewn camgymeriad" o Ysbyty'r Faenor yng Nghwmbr芒n.

Cafodd Dylan Cope o Gasnewydd ei gludo i'r ysbyty dan amheuaeth o fod 芒 llid y pendics, ond cafodd ei yrru adref gyda thaflen gynghori am beswch ac annwyd.

Daeth Uwch Grwner Gwent, Caroline Saunders, i'r casgliad "y gellid fod wedi osgoi marwolaeth Dylan pe na bai wedi cael ei yrru adref mewn camgymeriad".

Ychwanegodd fod "esgeulustod wedi cyfrannu" at ei farwolaeth.

Dywedodd y bwrdd iechyd eu bod yn "derbyn cyfrifoldeb llawn am yr hyn ddigwyddodd i Dylan", gan ymddiheuro i'w deulu.

Cafodd Dylan Cope o Gasnewydd ei gludo i Ysbyty'r Faenor yng Nghwmbr芒n o dan amheuaeth o fod 芒 llid y pendics, ond cafodd ddiagnosis o'r ffliw.

Clywodd Llys Crwner Gwent fod Dylan wedi cael ei weld gan nifer o glinigwyr, gan gynnwys meddyg anhysbys a "wfftiodd unrhyw bryder am bendics Dylan".

Ddyddiau'n ddiweddarach, cafodd ddiagnosis pellach o bendics wedi rhwygo a sepsis, a bu farw yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ar 14 Rhagfyr, 2022.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Dywedodd y crwner fod Dylan yn "dioddef o lid y pendics" pan aeth i Ysbyty'r Faenor ar 6 Rhagfyr, 2022.

Roedd gan ei dad nodyn gan y meddyg teulu yn gofyn i'r ysbyty ystyried llid y pendics, ond ni chafodd y nodyn ei ddarllen gan y nyrs yn yr ysbyty, ac roedd hynny, medd y crwner, "islaw'r safon dderbyniol am ofal".

Fe wnaeth y crwner annog Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i "adolygu'r diwylliant" yn ymwneud 芒 chlinigwyr yn darllen nodiadau gan feddygon teulu.

Dywedodd hefyd nad oedd y nyrs wedi cofnodi'n ddigonol sut a ble y dechreuodd y boen i Dylan, a bod yr archwiliad yn "annigonol".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Dylan Cope ei gludo i Ysbyty'r Faenor yng Nghwmbr芒n o dan amheuaeth o fod 芒 llid y pendics

Bu methiant yn y cyfathrebu, a dyna pam na chafodd Dylan adolygiad gan uwch glinigwr.

Pe byddai hynny wedi digwydd, ym marn y crwner, fe fyddai wedi cael ei gadw yn yr ysbyty, wedi cael prawf gwaed ac wedi derbyn adolygiad gan d卯m llawfeddygol.

Aeth ymlaen i ddweud y byddai hynny wedi arwain at "ddiagnosis clir".

"I grynhoi, roedd modd osgoi ei farwolaeth ar 14 Rhagfyr," meddai.

"Roedd hyn gyfystyr 芒 methiant dybryd mewn gofal sylfaenol. Roedd esgeulustod hefyd wedi cyfrannu at farwolaeth Dylan.

"Cafodd ei yrru adref pan oedd ei gyflwr yn haeddu asesiad pellach. Fe fyddai ei farwolaeth wedi cael ei osgoi pe na bai wedi cael ei yrru adref mewn camgymeriad."

Dywedodd y crwner ei bod wedi derbyn sicrwydd fod y bwrdd iechyd wedi cymryd camau priodol i wella yn y dyfodol.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Wrth siarad gyda 成人快手 Cymru wedi'r cwest, dywedodd tad Dylan, Laurence Cope, fod sawl cyfle i achub ei fab wedi cael eu methu.

"Alla i ddim credu'r peth - roedd bob un o'r cyfleoedd yna yn un lle'r oedd cyfle i achub ei fywyd," meddai.

"Mae'n anodd credu faint o gyfleoedd gafodd eu methu - un ar 么l y llall."

Ychwanegodd mam Dylan, Corinne Cope: "Yr unig berson a gafodd pethau'n iawn oedd y meddyg teulu yn y dechrau, ond ar 么l hynny mae'n ymddangos fod pawb wedi ei fethu.

"Sut mae hynny'n bosibl - bod cymaint o fethiannau? Rwy'n credu mai dyna'r peth sydd mor frawychus."

'Adran dan bwysau eithriadol'

Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan eu bod wedi ymchwilio i'r achos a rhannu'r canfyddiadau gyda theulu Dylan a'r crwner.

Ymddiheurodd y bwrdd am yr "amgylchiadau trasig arweiniodd at golled ei mab", gan dderbyn na fydd ymddiheuriad yn "gwneud yn iawn am boen a dioddefaint y teulu".

Dywedodd y llefarydd bod marwolaeth Dylan o ganlyniad i "fethiant system drefnu" mewn "adran oedd dan bwysau eithriadol gyda dwywaith nifer y cleifion oedd fel arfer yn mynychu ac nid yn fai ar un aelod o staff".