成人快手

Sul y Cofio: Sylw arbennig i garcharor rhyfel o Geredigion

Frank Evans
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe gofnododd Frank Evans ei hanes yn y carchar rhyfel mewn cyfrol

  • Cyhoeddwyd

Ar Sul y Cofio cafodd gwasanaethau coffa eu cynnal ar draws Cymru i gofio'r rhai a gollwyd mewn rhyfeloedd byd ac sy'n dal i frwydro.

Fe wnaeth y Prif Weinidog, Eluned Morgan, osod torch ger Cofeb Ryfel Genedlaethol Cymru yng Ngerddi Alexandra yng Nghaerdydd.

"Mae'r gwasanaeth coffa yn parhau i fod mor bwysig ag erioed, wrth inni ymuno 芒'n gilydd i anrhydeddu'r dynion a menywod o Gymru a aberthodd eu bywydau i sicrhau'r rhyddid rydyn ni'n ei fwynhau heddiw," meddai Ms Morgan.

Dywedodd Robat Idris, Cadeirydd Cymdeithas y Cymod: "Mae Sul y Cofio yn golygu llawer i gyn-filwyr a'u teuluoedd. Parchwn hynny. Ond wrth i wleidyddion droi'r cofio yn sbloetsh filwrol collwyd gwir ystyr y cofio. Dyna pam mae Cymdeithas y Cymod yn cefnogi gwisgo'r Pabi Gwyn er mwyn cofio pob un sy'n dioddef yn sgil rhyfel.

"Pobl gyffredin yw mwyafrif y lladdedigion y dyddiau hyn - edrychwch ar Balestina, Swdan, Congo ac Wcr谩in.

"Dylai cofio'r lladdedigion ein sbarduno i weithio dros heddwch bob dydd o'r flwyddyn."

Dychwelyd i Japan i gymodi

Yn Aberystwyth ddydd Sul roedd sylw arbennig yn cael ei roi i un a fu yn garcharor rhyfel yn Hong Kong ac yna Japan.

Bu Frank Evans o Lanwnnen, Ceredigion yn garcharor rhyfel yng ngwersylloedd Sham Shui Po ac Argyle Street yn Hong Kong ac yna yng ngwersyll Oeyama wedi iddo gael ei gipio ym Mrwydr Hong Kong ar ddydd Nadolig 1941.

Yn nechrau'r 1980au dewisodd Frank Evans fynd yn 么l i'r ddwy wlad lle bu'n garcharor "i wynebu ei orffennol gan geisio cymodi er mwyn selio dyfodol heddychlon", medd Maldwyn Pryse, Maer Aberystwyth.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ymweliad diweddar criw o Aberystwyth 芒 chofeb Frank Evans yn Japan

Mae Mr Pryse, disgyblion ysgol a chynrychiolwyr eraill o Aberystwyth newydd ddychwelyd o ddigwyddiad arbennig yn Yosano - un a oedd yn nodi 40 mlynedd ers i gyngor tre Kaya-Cho (Yosano bellach) anrhydeddu Frank Evans ac ers i gofeb i goffau'r carcharorion rhyfel gael ei dadorchuddio.

Cafodd y gofeb ei hariannu gan drigolion Yosano a pherchnogion ffatri Nickel lle cafodd Frank ei orfodi i weithio o dan amgylchiadau erchyll,

Ers y digwyddiad hwnnw mae cysylltiad cyson wedi bod rhwng trefi Yosano ac Aberystwyth.

"Roedd e am ddychwelyd i鈥檙 ardal lle bu鈥檔 garcharor yn Japan er mwyn codi cofeb i goffau ei gyd-garcharorion na oroesodd y profiadau erchyll.

"Bydd hi'n arbennig cofio am 诺r mor arbennig ar Sul y Cofio ac roedd fy ymweliad diweddar 芒 Japan yn arbennig," ychwanegodd Maldwyn Pryse.

Bu farw Mr Evans yn 1996, bedair blynedd wedi i'r disgyblion cyntaf o Japan ddod ar daith gyfnewid i Aberystwyth.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Torchau pabi coch a gwyn yng Nghaernarfon ar Sul y Cofio 2023

Yng Nghaerdydd fe wnaeth aelodau o'r lluoedd arfog, cynghorwyr a gwleidyddion eraill ymuno 芒'r Prif Weinidog.

Yn ogystal 芒 chofio "mae'n anrhydedd sefyll ochr yn ochr ag aelodau'r Lluoedd Arfog o Gymru sy'n gwasanaethu ac yn gweinyddu dyletswyddau cadw heddwch ar draws y byd," ychwanegodd Eluned Morgan.

"I'r rhai a gollodd eu bywydau mewn gwrthdaro: Fe'ch cofiwn am byth."

"Wrth i ni ymgynnull yng Nghofeb Ryfel Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd, rydym yn talu teyrnged i'r rhai a frwydrodd ac a fu farw dros ein rhyddid," meddai Huw Thomas, Arweinydd cyngor Caerdydd.

"Mae'r digwyddiad blynyddol hwn nid yn unig yn amser i gofio'r gorffennol ond hefyd i gefnogi'r rhai sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd a'u teuluoedd."