成人快手

Rheolau Brexit yn 'hunllef' i ddiwydiant creadigol Cymru

Peredur ap GwyneddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l Peredur ap Gwynedd mae cerddorion yn colli gwaith yn sgil rheolau Brexit

  • Cyhoeddwyd

Mae gitarydd y band Pendulum yn rhybuddio bod dyfodol y diwydiant creadigol yng Nghymru yn "edrych yn wael iawn" oherwydd rheolau Brexit.

Dywedodd Peredur ap Gwynedd bod costau a gwaith papur ychwanegol yn creu "hunllef" i fandiau o'r Deyrnas Unedig, gyda nifer o gerddorion yn colli eu swyddi.

Yn 么l Pwyllgor Diwylliant y Senedd, mae teithio i Ewrop yn her enfawr i berfformwyr o Gymru a bellach yn 鈥渁nymarferol鈥 i artistiaid.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod gadael yr Undeb Ewropeaidd "wedi cael effaith andwyol ar sawl sector yng Nghymru".

Dywedodd Llywodraeth y DU eu bod wedi cael "ymgysylltiad cynnar positif" 芒鈥檙 Undeb Ewropeaidd a'u bod yn "gweithio i ailosod y berthynas a chryfhau cydweithredu".

Wrth siarad 芒 Cymru Fyw, dywedodd Peredur ap Gwynedd bod rheolau a chyfyngiadau'r Undeb Ewropeaidd yn "hunllef i'r diwydiant creadigol".

Yn 么l y cerddor, mae bandiau ar draws y DU yn "rhwystredig" gyda'r gofynion ychwanegol i deithio ar draws Ewrop, a bod Brexit ond yn fuddiol i'r rheini sydd 芒 phasbort UE.

"Wrth gwrs ma' 'na bobl yn s么n am Brexit benefits ond ma鈥檙 benefits 'ma i鈥檙 bobl sydd 芒 phasbort UE... ma' 'da fi ffrindiau sydd yn Ffrancwyr, er enghraifft, a nhw sy鈥檔 ca'l y gwaith i gyd."

Mae disgwyl i weithwyr creadigol y DU sy鈥檔 teithio yn yr UE gael fisa a thrwyddedau gwaith, sy'n golygu mai dim ond am hyn a hyn o ddyddiau y caiff artistiaid weithio ar y cyfandir.

Fe all hyn arwain at golledion incwm i sawl artist, yn 么l adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, wrth i rai orfod teithio n么l i鈥檙 DU rhwng perfformiadau i adnewyddu fis芒u neu aros o fewn terfyn 90 diwrnod ardal Schengen.

"Ry'n ni fel band yn ddigon lwcus ein bod ni鈥檔 gallu torri鈥檙 90 diwrnod hwnnw yna yn hanner 鈥 ni鈥檔 gallu teithio i America ac Awstralia," medd Peredur.

"Ond dyw bandiau ddim yn teithio ac os dy'n nhw ddim yn teithio, maen nhw鈥檔 colli eu swyddi."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Peredur ap Gwynedd bod gwneud cais ar gyfer pasbort nwyddau, neu'r 'carnets' yn ychwanegu at y rhwystredigaeth

Yn ogystal 芒 chyfyngiadau gweithio, mae鈥檔 rhaid i artistiaid sy鈥檔 teithio hefyd wneud cais ar gyfer pasbort nwyddau, neu 'carnets'.

Esboniodd Peredur bod hynny'n ychwanegu at y rhwystredigaeth oherwydd fe allen nhw gymryd "diwrnodau i'w cwblhau".

"Rwy鈥檔 gwybod am fandiau sydd wedi teithio a ma' tryc nhw wedi cael ei ddal lan yn Dover ac yna eu gigs nhw yn cael eu canslo.

"Ond fel ma' fe yng Nghymru, alli di ddim teithio yma neu ar draws Prydain a gwneud cyflog da.

"Mewn 10 mlynedd bydd dim lot o ddiwydiant ar 么l 鈥 mae鈥檙 dyfodol yn edrych yn wael iawn."

'Amhosib gwneud elw'

Mae prif leisydd y band Chroma, Katie Hall, hefyd yn rhannu yr un rhwystredigaeth.

Dywedodd wrth Cymru Fyw mai breuddwyd y band yw gallu teithio o amgylch Ewrop, ond mae gwneud elw o deithiau yn "amhosib".

Mae Chroma wedi perfformio yn Seland Newydd ac yn yr Unol Daleithiau, ac fe fuon nhw hefyd yn rhan o 诺yl gerddoriaeth yng Nghatalunya yn 2019.

"Yn amlwg y freuddwyd yw trefnu taith Ewrop ond mae Brexit yn cael effaith fawr," meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Katie Hall mai breuddwyd ei band Chroma yw teithio o amgylch Ewrop

Ychwanegodd bod costau treth, fisas, a theithio ar draws sawl gwlad gydag amryw o nwyddau yn effeithio ar unrhyw elw.

Fel band bach o dri aelod, esboniodd bod ennill cyflog yn gallu bod yn 鈥渁nodd iawn鈥 yn y diwydiant.

鈥淢a' popeth ry鈥檔 ni鈥檔 ennill yn mynd n么l mewn i鈥檙 band," meddai Katie.

"Ar 么l ystyried yr holl ffioedd, bydden ni ddim yn elwa o deithio i Ewrop.

"Er bod e鈥檔 bwysig mynd i ardaloedd gwahanol fel artist, byddai dim digon o elw ynddo fe i ni ar hyn o bryd."

Ffynhonnell y llun, Bethan Miller CO
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Zac Mather, Katie Hall a Liam Bevan (o'r chwith i'r dde) o'r band Chroma

Yn 么l Delyth Jewell AS, cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, mae perfformwyr ac artistiaid Cymru yn "dioddef" oherwydd Brexit.

"Mae mwy o gostau, gwaith papur newydd di-ddiwedd a chyfyngiadau teithio yn mygu diwydiant creadigol hanfodol Cymru," meddai.

鈥淢ae rhwystrau Brexit wedi arafu symudiad rhydd creadigrwydd, syniadau, ac mae llawer o artistiaid yn dewis peidio teithio.

鈥淢ae rhaid i鈥檔 cymdeithas ddod o hyd i ffyrdd gwell o adlewyrchu gwerth y celfyddydau i鈥檔 heconomi a鈥檔 ffordd o fyw."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Does dim amheuaeth bod gadael yr Undeb Ewropeaidd wedi cael effaith andwyol ar sawl sector yng Nghymru, gyda hyn yn un esiampl.

"Byddwn yn ymateb yn llawn drwy'r pwyllgor maes o law yn y ffordd arferol.鈥

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Mae鈥檙 llywodraeth wedi cael ymgysylltiad positif cynnar 芒鈥檙 Undeb Ewropeaidd wrth i ni weithio i ailosod y berthynas a chryfhau cydweithredu.

"Mae鈥檙 maniffesto yn cydnabod r么l bwysig artistiaid teithiol.鈥