'Ger Taid': 'Unigolyn mwyaf Cymraeg y byd'
- Cyhoeddwyd
Mae saer coed sy'n byw yn ardal Llandeilo wedi ennill gwobr 'Unigolyn Mwyaf Cymraeg y Byd' gan Bwrlwm ARFOR - mudiad sy'n hybu twf economaidd a chryfder y Gymraeg yn siroedd gorllewinol Cymru.
Mae Geraint Edwards, sy'n wreiddiol o Ddolgellau, wedi ennill y wobr am ei waith yn hybu'r Gymraeg yn ei fusnes. Mae'n defnyddio鈥檙 Gymraeg ym mhob agwedd o'i fywyd, ac mae wedi trosglwyddo hyn i'w waith.
鈥淢ae鈥檔 rhan o bwy ydw i," meddai Geraint. "Yn y Gymraeg dwi鈥檔 adrodd stori 鈥 hanes fy musnes a fi fy hun, felly mae鈥檔 rhywbeth cwbl naturiol. Mi fysa hi鈥檔 fwy o ymdrech i mi fod yn fusnes Saesneg."
Dechreuodd Geraint, neu 'Ger Taid' fel mae'n cael ei 'nabod gan lawer, i weithio gyda coed gyda'i daid yn Nolgellau tra roedd yn blentyn.
Cafodd swydd mewn swyddfa yng Nghaerdydd, ond wedi rhai blynyddoedd yno roedd yn teimlo'n rhwystredig ac roedd am ddychwelyd i weithio gyda'i ddwylo. Felly dyna a wnaeth.
'Y Gymraeg yn weladwy'
Roedd Geraint yn saer coed yng Nghaerdydd am gyfnod cyn symud i orllewin Cymru tua thair blynedd yn 么l i fyw'n agosach i deulu ei wraig, Carys.
Boed yng Nghaerdydd neu yn Llandeilo, mae Geraint wedi sicrhau bod y Gymraeg yn cael man amlwg iawn yn ei fusnes.
鈥淢ae popeth o鈥檙 ochr marchnata鈥檔 digwydd ble mae鈥檙 Gymraeg yn gyntaf, neu weithiau dim ond yn y Gymraeg - er enghraifft y logo ar ochr y fan, ble mae鈥檙 Gymraeg yn gwbl weladwy.
"Am flynyddoedd o鈥檔 i鈥檔 gwrthod defnyddio鈥檙 apiau ar gyfer anfonebau, achos drwy wneud hynny mi fyddan nhw鈥檔 uniaith Saesneg. Y prif beth ydy bo鈥檙 Gymraeg yn cael lle gwbl weladwy ac amlwg yn holl drafodion y busnes.鈥
Mae Geraint yn dweud fod y wobr wedi rhoi rhywfaint o gyhoeddusrwydd i'w waith, ond hefyd y cyfle iddo siarad am y pwysigrwydd o ddefnyddio'r Gymraeg.
鈥淢ae Bwrlwm ARFOR yn fenter sy鈥檔 cefnogi datblygiad a thwf economaidd Cymraeg yn siroedd gorllewin Cymru. Felly dwi鈥檔 mynd i'w ddefnyddio i helpu i godi ymwybyddiaeth o fy ngwaith i yma, a defnyddio fo i angori fy hun yng ngorllewin a chefn gwlad Cymru."
Beth mae Geraint yn meddwl sydd angen ei wneud i annog mwy o ddefnydd o鈥檙 Gymraeg ym myd busnes?
鈥淢ae 鈥榥a wastad rhywun sy鈥檔 dweud bod hi鈥檔 help cael pres neu ryw grantiau i wneud hyn a鈥檙 llall. Ond dwi hefyd yn meddwl fod angen jest gofyn i fusnesau pam nad ydyn nhw鈥檔 cynnwys y Gymraeg, pam nad ydyn nhw鈥檔 rhoi enw Cymraeg i鈥檙 busnes neu roi manylion cyswllt yn Gymraeg ar ochr y fan."
Mae Geraint yn gwerthfawrogi bod y Gymraeg yn rhywbeth i'w ddefnyddio wrth farchnata Cymru.
"Dwi 鈥榬ioed wedi colli joban oherwydd bod y Gymraeg yn dod gyntaf, ac yn aml iawn efo busnesau fel y maes lletygarwch, yr unig beth sy鈥檔 gwahaniaethu Dolgellau a rhywle fel Cumbria yw鈥檙 Gymraeg, felly allen ni ddefnyddio鈥檙 Gymraeg gyda balchder."
Mae rhywbeth mor syml ag arwydd ddwyieithog yn gallu gwneud byd o wahaniaeth, yn 么l Geraint.
鈥淵n aml iawn gyda fy musnes i, Pedair Cainc, ymysg y cwsmeriaid di-Gymraeg mae pobl yn holi am yr enw ac yn cael rhywfaint o'r hanes a dod i fy nabod i.
鈥淢ae 鈥榥a drafodaeth yngl欧n 芒 normaleiddio鈥檙 iaith, a pan ti鈥檔 gwneud rhywbeth yn ddwyieithog ti鈥檔 gweld y gymhariaeth yn glir. Os 鈥榙i cwsmeriaid yn gweld arwydd 鈥楪waith coed/Carpentry鈥, maen nhw wedyn yn gweld y cyfieithiad ac mae'n codi鈥檙 ymwybyddiaeth o'r Gymraeg yn naturiol.鈥
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd11 Awst
- Cyhoeddwyd14 Awst
- Cyhoeddwyd15 Awst