成人快手

Cyn-gaplan ysgol yn cyfaddef creu delweddau anweddus o blant

Samuel Erlandson
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Samuel Erlandson yn gaplan mewn ysgol breswyl yn Llandudno

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-gaplan ysgol a rheithor wedi cyfaddef iddo greu delweddau anweddus o blentyn.

Fe wnaeth Samuel Erlandson, 36 o Riwabon, bledio'n euog i ddau gyhuddiad o'r fath yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Sadwrn.

Mae Erlandson bellach wedi cael ei ddiswyddo fel caplan St David鈥檚 College - ysgol breswyl yn Llandudno.

Y gred yw nad yw'r cyhuddiadau yn ymwneud a disgyblion yn yr ysgol hon.

'Wedi'n syfrdanu a'n pryderu'

Dywedodd llefarydd ar ran St David鈥檚 College: "Rydym wedi ein syfrdanu a'n pryderu gan y newyddion fod Samuel Erlandson wedi cyfaddef cyflawni'r troseddau ofnadwy yma.

"Pan gawsom ni wybod ei fod wedi ei arestio, fe gymron ni gamau yn syth i sicrhau nad oedd ganddo gyswllt pellach gyda chymuned yr ysgol.

"Pan ddaeth i'r amlwg ei fod wedi pledio'n euog, fe gafodd ei ddiswyddo o'i r么l yn syth.

"Nid oes modd i ni wneud sylw pellach ar y mater tra bod prosesau cyfreithiol yn parhau."

Roedd Samuel Erlandson hefyd wedi gweithio fel rheithor yng nghapeli St Hilary's yn Llan-rhos a St Paul's yn Llandudno.

Mae disgwyl iddo gael ei ddedfrydu yn Llys Ynadon Llandudno ddydd Llun.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi galw ar unrhyw un sydd 芒 phryderon neu sydd am rannu gwybodaeth mewn cysylltiad 芒'r ymchwiliad yma, i gysylltu 芒 nhw.

Pynciau cysylltiedig