成人快手

Brand New Ethiopia?: Recordiadau coll clasuron Geraint Jarman

Geraint JarmanFfynhonnell y llun, John Morgan
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Geraint Jarman

  • Cyhoeddwyd

Yn Stiwdio Sain yn 1978, recordiodd Geraint Jarman a鈥檙 Cynganeddwyr yr albwm Hen Wlad Fy Nhadau.

Bron i hanner canrif yn ddiweddarach, mae鈥檙 recordiadau gwreiddiol wedi cael eu darganfod, ac mae Geraint wedi cael y cyfle i wrando ar draciau clasuron fel Ethiopia Newydd, Paradwys Ff诺l ac O Lisa unwaith eto a hel atgofion ar y rhaglen Tapiau Coll ar 成人快手 Radio Cymru.

Ffynhonnell y llun, Sain
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Albwm Geraint Jarman a'r Cynganeddwyr, Hen Wlad Fy Nhadau, a gafodd ei recordio yn 1978

'Waw! Diolch!'

Roedd Sain yn recordio ar wyth trac wahanol, ac roedd y cynhyrchydd Barry 鈥楢rchie鈥 Jones wrth ei fodd yn cael y cyfle i wrando ar draciau unigol Ethiopia Newydd bob yn un: Cat Croxford ar y drymiau, Tich Gwilym ar y git芒r a llais Geraint Jarman yn canu... yn Saesneg?!

Yn annisgwyl, dim ond dau drac llais o eiriau Saesneg oedd ymhlith y tapiau, a dim s么n am y fersiwn Gymraeg adnabyddus.

Geraint oedd 芒鈥檙 ateb pam fod Brand New Ethiopia wedi cael ei recordio:

鈥淥鈥檇d Tich mewn band roedd o鈥檔 chwarae efo nhw yng Nghaerdydd ac roedd o isho mwy o ganeuon i鈥檞 gwneud mewn set.鈥

Ffynhonnell y llun, Canolfan Peniarth
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y diweddar Tich Gwilym - mae ei fersiwn enwog o Mae Hen Wlad Fy Nhadau hefyd ar y recordiadau coll

Roedd y trac Cymraeg ar goll am byth felly... neu oedd o? Roedd Barry wedi troi at dechnoleg AI am help, meddai...

鈥淒wi 鈥榙i gallu uwchlwytho鈥檙 master track sydd ar y CD i鈥檙 we, ac o fewn eiliadau mae o wedi gallu torri hwnna fyny i dryms, gitar, keyboard a dy lais di... a 鈥榙a ni 鈥榙i gallu achub vocal Ethiopia Newydd yn Gymraeg!鈥

Diolch byth am dechnoleg!

'Dwi ddim wedi clywed hon ers ages!''

Ffynhonnell y llun, Bara Menyn
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Geraint yn y gr诺p Bara Menyn gyda Heather Jones a Meic Stevens

Un g芒n sydd ar y tapiau gwreiddiol, ond oedd ddim ar yr albwm gorffenedig, oedd Mynd i鈥檙 Bala Mewn Cwch Banana.

Roedd Geraint wedi rhyddhau鈥檙 g芒n ddechrau鈥檙 1970au gyda'r gr诺p Bara Menyn, felly pam ei recordio hi eto, gyda band newydd?

鈥淢ae hanes eitha鈥 diddorol i鈥檙 g芒n yma,鈥 eglurodd. 鈥淣es i ei sgwennu o yn 1967, ond c芒n ska oedd hi. A beth wnaeth Meic [Stevens] oedd cymryd y geiriau a鈥檌 roi o yn ei fersiwn o oedd yn 12 bar blues.

鈥淵r unig reswm oedden ni鈥檔 ei recordio [yn 1978] oedd achos ein bod ni鈥檔 ei gwneud hi鈥檔 fyw. Doedden ni ddim yn sicr y byddai hi ar y record.鈥

Ac yn 么l Geraint, cafodd y penderfyniad ei wneud yn eithaf buan na fyddai鈥檔 drac ar yr albwm.

Yn ffodus, mae'r fersiwn ska ar gof a chadw bellach.

Ffynhonnell y llun, Barry 'Archie' Jones
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r cynhyrchydd Barry 'Archie' Jones, wedi bod yn tyrchu drwy archifau helaeth Sain ar gyfer y gyfres radio Tapiau Coll

'Dwi鈥檔 lwcus'

Roedd Geraint Jarman wedi recordio鈥檌 albymau unigol mewn stiwdio ar Stacey Road yng Nghaerdydd, felly pam mynd i Sain i recordio o gwbl?

鈥淚 fi roedd pethau wedi newid o鈥檙 sefyllfa blaenorol... roedd band r诺an,鈥 meddai. 鈥淒yma Huw Jones yn gofyn i ni recordio albwm yn Sain, a dyma fi鈥檔 cytuno, achos pan oedden ni鈥檔 recordio yn Stacey Road, o鈥檔 ni鈥檔 recordio鈥檔 achlysurol 鈥 rhyw ddiwrnod yn fa鈥檔a, rhyw weekend.

鈥淵n Sain, o鈥檇den ni am ei wneud o mewn wythnos, ac o鈥檔 i wedi ffeindio bod hynny鈥檔 siwtio beth o鈥檔 ni鈥檔 ei wneud.鈥

Ffynhonnell y llun, Sain
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Geraint Jarman a (rhai o'r) Cynganeddwyr

Mae Barry Jones yn sylwi fod yna lawer o hwyl i鈥檞 glywed ar y recordiadau rhwng aelodau鈥檙 band, ac wrth gwrs, llawer o dalent.

Mae Geraint yn cytuno 芒 hyn ac yn dweud ei fod yn teimlo鈥檔 ffodus ei fod wedi cael y cyfle i weithio gyda鈥檙 fath dalent a chriw o ffrindiau.

鈥淥鈥檔 i鈥檔 licio鈥檙 teimlad o agosatrwydd o fewn y band, a bo' nhw'n cael dweud be' sy'n digwydd, os oedd ganddyn nhw syniadau pendant.

"Ac oedden ni鈥檔 gweithio鈥檔 gyflym; roedd 鈥榥a fwy o amser i chwarae frizbee 飞别诲测苍!鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Geraint yn perfformio yn Gig y Pafiliwn yn Eisteddfod Genedlaethol 2018 yng Nghaerdydd