Buddsoddi 拢206m i ddatblygu Maes Awyr Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Bydd Maes Awyr Caerdydd yn derbyn dros 拢206m i gynyddu nifer y teithwyr a gwella cyfleusterau, meddai gweinidog yr economi.
Dywedodd Ken Skates AS y byddai'r maes awyr yn gobeithio denu dwy filiwn o deithwyr y flwyddyn ac yn datblygu cyfleusterau cynnal a chadw, cargo a thechnolegau cynaliadwy fel rhan o'r cytundeb ariannu 10 mlynedd.
Mae鈥檙 maes awyr wedi bod dan berchnogaeth gyhoeddus ers 2013.
Dywedodd Mr Skates mai鈥檙 rheolwyr fydd yn gwario鈥檙 arian 鈥済yda rhyddid masnachol鈥.
Dywedodd y Ceidwadwyr fod pobl Cymru yn colli arian ar 鈥渂rosiect balchder鈥 y llywodraeth Lafur.
'Hwb i swyddi a'r economi'
Dywedodd y llywodraeth y bydd ei buddsoddiad newydd yn y maes awyr yn rhoi hwb i swyddi a'r economi ehangach, ond bydd angen i'r cynlluniau gael eu hadolygu gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA).
Byddai鈥檔 cael ei nodi 鈥渇el cymhorthdal o ddiddordeb arbennig o dan drefn cymhorthdal y DU,鈥 meddai Mr Skates.
Mae maes awyr Caerdydd wedi derbyn degau o filiynau o bunnau mewn benthyciadau a grantiau ers dod dan reolaeth Llywodraeth Cymru yn 2013.
Cyfanswm y gwariant presennol yw 拢179.6m, sy鈥檔 cynnwys y pris gwreiddiol talodd y llywodraeth am y maes awyr, yn ogystal 芒 thaliadau eraill fel benthyciadau Covid ac arian ar gyfer gwelliannau ac offer.
Daeth yr ymrwymiad newydd, i roi 拢206m dros y 10 mlynedd nesaf, ar 么l i becyn ariannu effeithiau Covid y llywodraeth ddod i ben.
Mewn datganiad ysgrifenedig dywedodd Mr Skates fod Maes Awyr Caerdydd yn 鈥渆lfen hanfodol o seilwaith economaidd Cymru鈥 sy鈥檔 cyfrannu 拢200m i鈥檙 economi bob blwyddyn.
鈥淢ae鈥檙 Maes Awyr, ynghyd 芒 pharc busnes Bro Tathan, yn ganolbwynt i glwstwr o fusnesau hedfan ac awyrofod llwyddiannus yn y rhanbarth.
鈥淢ae'n borth i Gymru i dwristiaid, buddsoddwyr a'r miloedd lawer o ymwelwyr a ddaw bob blwyddyn i fwynhau'r nifer mawr o ddigwyddiadau chwaraeon, busnes a masnach a digwyddiadau diwylliannol a gynhelir yn y brifddinas a'r cyffiniau,鈥 meddai Mr Skates.
Mae鈥檙 llywodraeth wedi datblygu strategaeth hirdymor ar gyfer y busnes gyda rheolwyr y maes awyr, ac fe fydd yn canolbwyntio ar ddenu busnesau hedfan a thyfu llwybrau teithwyr.
Dywedodd Mr Skates y gallai targedu鈥檙 llwybrau newydd ar gyfer cwmn茂au hedfan 鈥渨eld niferoedd teithwyr blynyddol y maes awyr yn cynyddu i ychydig dros ddwy filiwn o fewn y degawd nesaf鈥.
Dywedodd Natasha Asghar AS, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar drafnidiaeth, fod pobl Cymru wedi colli鈥檜 harian 鈥済yda鈥檙 prosiect balchder hwn, un o鈥檙 rhai mwyaf costus hyd yma gan Lafur.
鈥淢ae Llywodraeth Lafur Cymru eisoes wedi rhoi bron i 拢200m i鈥檙 maes awyr fel ag y mae, gyda llai o elw. Mae mwy na dyblu鈥檙 buddsoddiad hwnnw yn wastraff arian aruthrol.
鈥淏arn y Ceidwadwyr Cymreig o hyd yw y dylid gwerthu Maes Awyr Caerdydd er mwyn rhoi rhywfaint o seibiant i drethdalwyr Cymru.鈥
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod ganddyn nhw 鈥渇eddwl agored鈥 yngl欧n 芒 pherchnogaeth y maes awyr yn y dyfodol.
Wrth geisio datblygu llwybrau teithio newydd, bydd meysydd awyr sy鈥檔 gweithredu fel hwb yn Ewrop yn cael eu blaenoriaethu, yn ogystal 芒 llwybrau newydd i ogledd America, y dwyrain canol a de Asia.
Yn 2023, fe ddefnyddiodd tua 841,188 o deithwyr Faes Awyr Caerdydd - tua hanner y nifer a deithiodd drwyddo yn 2019.
Cafodd meysydd awyr y DU i gyd eu taro gan y cyfyngiadau teithio yn ystod y pandemig, ond mae maint cymharol fach Maes Awyr Caerdydd wedi golygu ei bod yn cymryd mwy o amser nag eraill i adennill teithwyr a llwybrau鈥檙 cwmn茂au hedfan.
Nid yw Qatar Airways, oedd wedi gweithredu taith i Doha o Gaerdydd, wedi ailddechrau鈥檙 gwasanaeth eto.
Ond mae cludwyr eraill wedi cynyddu eu llwybrau wrth i hyder ddychwelyd i'r diwydiant hedfan.
Mewn datganiad, dywedodd Spencer Birns, Prif Swyddog Gweithredol Maes Awyr Caerdydd: "Bydd y buddsoddiad yma yn galluogi i ni barhau i gynnig buddion economaidd, i greu fwy o swyddi ar draws ein gwlad, bod yn borth i'r DU a Chymru, a sicrhau cysylltiadau byd-eang"
"Rydym yn ased gwladol ac yn falch i barhau i dderbyn cefnogaeth Llywodraeth Cymru.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mawrth
- Cyhoeddwyd14 Chwefror
- Cyhoeddwyd28 Awst 2023