Problem rheoli gofod awyr yn achosi oedi i deithwyr
- Cyhoeddwyd
Mae Maes Awyr Caerdydd wedi cadarnhau bod problem dechnegol gyda systemau rheoli gofod awyr y DU yn amharu ar deithiau i ac o'r safle yn ne Cymru.
Dywed gwasanaeth rheoli awyrle'r DU, NATS eu bod wedi "gosod cyfyngiadau llif traffig i gynnal diogelwch".
Eglurodd y gwasanaeth fod y broblem yn golygu nad oedden nhw'n gallu prosesu hediadau yn awtomatig, ac felly roedden nhw'n gorfod rhoi pob hediad yn y system yn unigol.
Roedd hynny'n golygu nad ydyn nhw'n gallu prosesu cymaint o hediadau 芒'r arfer, a hynny sydd felly wedi achosi oedi ar draws y DU.
Cafodd y broblem ei datrys erbyn 15:15, ond mae hediadau yn dal i wynebu oedi sylweddol.
'Siomedig'
Roedd Maes Awyr Caerdydd wedi dweud yn gynharach ddydd Llun mai rheswm arall oedd yn gyfrifol am oedi yn achos hediad Aer Lingus i Belfast, oedd i fod i adael am 12:00.
Ond wedi hynny, fe waeth llefarydd gadarnhau i 成人快手 Cymru bod "yr hediadau eraill heddiw yn ymddangos eu bod nawr yn cael eu heffeithio" gan y sefyllfa rheoli gofod awyr.
Dywedodd prif weithredwr y maes awyr, Spencer Birns: "Mae'n siomedig bod ein cwsmeriaid yn profi oedi oherwydd trafferthion technegol gydag UK Air Traffic Control (NATS).
"Rydym wedi cael gwybod eu bod yn gweithio'n galed i ddatrys y sefyllfa. Rydym yn cynghori ein cwsmeriaid i siarad gyda'u cwmni awyren am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch eu teithiau."
Mae newyddiadurwr 成人快手 Cymru, Nest Williams - sy'n disgwyl i ddal awyren o Palma yn Sbaen i Fanceinion - yn un o'r degau o filoedd sydd wedi wynebu oedi oherwydd y trafferthion.
"Roeddan ni fod i adael hanner awr yn 么l, a tan 'chydig funudau yn 么l mi oeddan nhw'n dweud ein bod ni ar amser," meddai o'r maes awyr ddechrau'r prynhawn.
"Mae hi'n eitha' amlwg bod hynny ddim yn wir.
"Maen nhw newydd roi gwybod i ni bod 'na broblem efo'r system gyfrifiadurol i reoli traffig awyr 'n么l ym Mhrydain, felly maen nhw wedi dweud wrthan ni am aros am sbel eto.
"Ond does 'na ddim rhagor o wybodaeth o gwbl."
'Dydyn ni ddim yn gwybod'
Bu Daniel Hopkins o Gaerdydd yn disgwyl am oriau ym maes awyr y brifddinas ar gyfer hediad i Tenerife, oedd i fod i adael am 13:45.
Mae'n dweud mai ychydig iawn o wybodaeth mae teithwyr wedi'i gael yno.
"Oll 'dyn ni wedi cael gwybod ydy na fydd yr awyren yn mynd tan 17:00 ar y cynharaf, ond dydyn ni ddim yn gwybod," meddai.
"Yn y cyfamser, mae'n ymddangos fod rhai hediadau yn gadael Maes Awyr Bryste."
Roedd Owain Tudur o Gaerdydd, sy'n ceisio gwneud y daith o Ddulyn i Lerpwl, i fod yn hedfan am 13:25, ond rhyw dair awr wedi hynny roedd yn dal ar yr awyren yn disgwyl i adael Iwerddon.
Cafodd ei hediad gwreiddiol gyda Ryanair ei chanslo oherwydd y trafferthion, cyn i'r cwmni newid ei benderfyniad a chyhoeddi y byddai'r hediad yn mynd yn ei flaen.
Dywedodd fod "pobl yn dechrau mynd yn rhwystredig ar yr awyren" a bod "staff yn dechrau cael bach o boendod", a hwythau wedi bod ar y tarmac yn disgwyl ers awr a hanner bellach.
"Mae'r capten newydd gyhoeddi ein bod ni'n aros am slot, ond so nhw'n gallu cadarnhau amser pryd yn union fyddwn ni'n gadael," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mai 2023
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2023