Maes Awyr Caerdydd yn colli 拢4.5m ar 么l derbyn grant o 拢5.3m
- Cyhoeddwyd
Mae Maes Awyr Caerdydd yn parhau i wneud colled wrth iddo frwydro i ddenu teithwyr yn 么l i lefelau cyn-bandemig.
Collodd 拢4.5m yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2023, ar 么l derbyn grant o 拢5.3m gan y llywodraeth.
Mae'r cwmni, sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru, yn gobeithio gwneud mwy o ddefnydd o'i dir i godi arian.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y maes awyr yn gweithio i adfer teithiau hedfan ac arallgyfeirio ei fusnes.
Mae'r cyfrifon yn adrodd am y flwyddyn ariannol lawn gyntaf ar 么l i gyfyngiadau teithio Covid gael eu codi, a'r flwyddyn y tynnodd Wizz Air allan.
Maent yn cofnodi 拢4.5m o golledion cyn treth ar gyfer 2022-23.
Mae gweinidogion Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn cefnogi'r maes awyr trwy grant gwerth 拢42.6m dros bedair blynedd.
Dros y blynyddoedd mae wedi derbyn miliynau mewn benthyciadau gan y llywodraeth.
Yn 2021 fe wnaeth gweinidogion Llafur ddileu benthyciad o 拢42.6m roedden nhw wedi ei roi i'r maes awyr, gan adael iddo ad-dalu 拢26.3m erbyn 2045.
Defnyddiodd tua 910,000 o bobl y maes awyr yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2023, a oedd 380% yn fwy na'r 12 mis blaenorol.
Fodd bynnag, doedd ond yn 58% o'r ffigwr yn y flwyddyn cyn y pandemig.
Mae Maes Awyr Caerdydd yn defnyddio EBITDA, sy'n cofnodi enillion cyn treth, llog ac eitemau eraill, i adrodd ar ei berfformiad ariannol.
Gan ddefnyddio'r mesur hwnnw mae'n dweud bod ei golledion sylfaenol wedi gostwng 拢2.1m o'r flwyddyn flaenorol, pan dderbyniodd grant o 拢7.9m.
Felly dywedodd Maes Awyr Caerdydd ei fod wedi nodi elw o 拢863,000 yn 2022-23.
Yn hytrach na dibynnu ar deithwyr yn unig, mae Maes Awyr Caerdydd yn gobeithio cynyddu ei incwm drwy wneud mwy o ddefnydd o'i redfa a'i dir.
'Dibyniaeth'
Mae'r cyfrifon yn dweud bod penderfyniad Wizz Air i gau ei weithrediadau yn gynnar yn 2023 yn atgyfnerthu "yr angen i sicrhau bod dibyniaeth ar weithgareddau teithwyr ar gyfer mwyafrif y refeniw yn cael ei leihau".
Roedd disgwyl i Qatar Airways ailddechrau hedfan o Faes Awyr Caerdydd erbyn diwedd y llynedd, ond nid yw wedi dychwelyd i'r maes awyr eto.
Dywedodd Natasha Asghar o'r Ceidwadwyr Cymreig: "Dywedwyd wrthym fod Qatar Airways yn dod yn 么l ym mis Rhagfyr, ond dyma ni ym mis Chwefror a does dim golwg o hediadau i Doha.
"Mae'n rhaid i arallgyfeirio'r maes awyr fod yn flaenoriaeth i'r gweinidog Llafur dros drafnidiaeth, os na fydd mwy o weithredwyr yn dod, bydd colledion Maes Awyr Caerdydd ond yn tyfu."
拢240m o werth ychwanegol gros
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi ymrwymo i gynnal maes awyr yng Nghymru oherwydd y buddion y mae'n eu rhoi i economi Cymru a'i chadwyn gyflenwi leol.
"Mae'r maes awyr yn cynhyrchu dros 拢240m o werth ychwanegol gros i economi Cymru bob blwyddyn.
"Mae'r t卯m gweithredol yn parhau i weithio'n galed i adfer teithiau awyr ac arallgyfeirio'r busnes fel rhan o'i adferiad o'r pandemig.
"Mae trafodaethau masnachol yn parhau rhwng Maes Awyr Caerdydd a'r cwmni hedfan yngl欧n ag ailddechrau gwasanaeth Qatar Airways i Doha o Gaerdydd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mai 2023
- Cyhoeddwyd2 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2023