Winifred Coombe Tennant: Heddychwraig a Meistres y Gwisgoedd
- Cyhoeddwyd
Ffeminydd, ymgyrchydd, heddychwraig, cenedlaetholwraig; dyma rai o鈥檙 geiriau sy鈥檔 cael eu defnyddio i ddisgrifio Winifred Coombe Tennant.
Treuliodd ran helaeth o鈥檌 bywyd yn byw yn ardal Castell-nedd, yn gwasanaethu鈥檔 lleol a helpu鈥檙 dosbarth gweithiol. Roedd hi hefyd yn Feistres y Gwisgoedd yn yr Orsedd.
Ond yn ddiddorol, does yna ddim llawer o bobl wedi clywed amdani.
Dyma stori Winifred Coombe Tennant.
'Radical'
Cafodd ei geni ym mis Tachwedd 1874. Yn wreiddiol o Swydd Gaerloyw ac o deulu bonheddig, treuliodd dros 30 mlynedd yn ardal Castell-nedd ar 么l priodi Charles Coombe Tennant yn 1895, a oedd o deulu o dirfeddianwyr oedd wedi gwneud eu ffortiwn ar 么l sylweddoli fod glo a mwynau eraill ar eu tir.
Er ei magwraeth breintiedig, ei haddysg mewn ysgolion Gatholig yn Ffrainc a鈥檙 Eidal a鈥檙 arian teuluol oedd ganddi, roedd ganddi ddiddordeb mewn gwarchod pobl oedd ddim mor ffodus 芒 hi, eglurodd Alun Wyn Bevan ar raglen Aled Hughes ar 成人快手 Radio Cymru:
鈥淩oedd syniadau radicalaidd 鈥榙a hi... roedd hi鈥檔 poeni am y llai breintiedig yn ein cymdeithas ni.
鈥淩oedd hi鈥檔 ffeminydd 鈥 roedd hi am sicrhau鈥檙 bleidlais i ferched, mewn cyfnod anodd iawn i wragedd 鈥 roedd hi鈥檔 suffragist, roedd hi鈥檔 heddychwraig.
鈥淵 prif reswm am hynny oedd fod ei thad wedi teithio o gwmpas y byd ac yn cas谩u鈥檙 gair 鈥榬hyfel鈥 鈥 pan fyddai e yn clywed s么n am "Britain Rules the Waves", oedd e鈥檔 mynd yn wallgo'.
鈥淔elly 鈥榥aeth Winifred etifeddu鈥檙 elfen yna o鈥檌 gymeriad e.鈥
Ymysg rhai o鈥檌 rolau dylanwadol dros y blynyddoedd oedd Ustus Heddwch 鈥 y fenyw gyntaf i ddal y swydd yn ne Cymru 鈥 a chynrychiolydd benywaidd cyntaf Prydain yng Nghynghrair y Cenhedloedd yn 1922, yn dadlau ar faterion fel rhoi stop ar gludo a chamdrin merched a phlant.
Roedd hi鈥檔 ymwelydd rheolaidd 芒鈥檙 carchar yn Abertawe, a helpodd i wthio newidiadau a oedd yn gwella lles y carcharorion. Cafodd y newidiadau yma wedyn eu mabwysiadu gan garchardai eraill ledled y Deyrnas Unedig.
Roedd hi鈥檔 llywydd cangen Castell-nedd o鈥檙 National Union of Women鈥檚 Suffrage Societies, ac yn ystod y Rhyfel Mawr, roedd hi鈥檔 ddirprwy swyddog ar Gymdeithas Amaeth Gwragedd Morgannwg.
Ynghyd 芒 materion lleol, roedd ganddi hefyd ddiddordeb mewn materion ehangach, eglurodd Alun Wyn Bevan:
鈥淩oedd hi hefyd yn genedlaetholwraig 鈥 roedd hi am hunan-lywodraeth i Iwerddon; roedd hi鈥檔 ffrindiau gyda Michael Collins. Roedd hi moyn hunan-lywodraeth i Gymru.鈥
Cymreictod
Er ei bod wedi ei geni yn Lloegr, roedd ei mam o Abertawe, ac fe gymerodd at Gymru a鈥檙 ffordd Gymreig o fyw pan fu鈥檔 byw yn Cadoxton Lodge sef cartref teuluol ei g诺r.
鈥淏uodd hi鈥檔 byw yng Nghastell-nedd am 30 o flynyddoedd, a bob bore, byddai hi鈥檔 gwisgo鈥檙 wisg Gymreig tan 12 o鈥檙 gloch.鈥
Doedd hi ddim yn medru'r Gymraeg, ond roedd hi鈥檔 Eisteddfodwraig frwd, ac roedd Winifred, neu Mam o Nedd o roi ei henw gorseddol, yn gweithio fel Meistres y Gwisgoedd i鈥檙 Orsedd am dros ugain mlynedd o 1928.
Yn 么l Alun Wyn Bevan, mae diolch iddi am ddod 芒鈥檙 Eisteddfod Genedlaethol i Gastell-Nedd yn 1918.
鈥淥鈥檇d hi wrth ei bodd adeg yr Eisteddfod. Yn 1918, pan oedd y Rhyfel Byd Cyntaf yn dirwyn i ben a dim un tref yng Nghymru am wybod fawr o ddim am yr Eisteddfod, dyma hi yn dylanwadu ar y bobl yng Nghastell-nedd i wahodd yr Eisteddfod.
"Fe lwyddodd i gael David Lloyd George, y Prif Weinidog ar y pryd; fe ddaeth e lawr i鈥檙 Gymanfa. Roedd gymaint o bobl moyn tocynnau i鈥檙 Gymanfa, dyma nhw鈥檔 trefnu fod 10,000 yn bresennol yn y babell yn y prynhawn, a 10,000 yn y nos.鈥
Bywyd yn Llundain
Ar 么l i鈥檞 g诺r farw yn 1928, symudodd i Lundain, gan rwbio ysgwyddau 芒 rhai o enwau mawr y cyfnod.
鈥淩oedd gan ei mam-yng-nghyfraith gartref wrth ymyl Downing Street yn Llundain," eglurodd Alun Wyn Bevan. "Roedd hi鈥檔 gwahodd mawrion y cyfnod i bart茂on; pobl 芒 stamp a chalibr, pobl fel Aldous Huxley, Robert Louis Stevenson 鈥 roedd hi鈥檔 mynd ar wyliau i鈥檞 gartref ef yn Ffrainc."
Mae s么n fod y ffaith ei bod hi鈥檔 brydferth wedi achosi iddi ddenu llygad ambell i wleidydd. Roedd hi鈥檔 gyfeillgar gydag ambell i Brif Weinidog o鈥檙 cyfnod; H.H Asquith, roedd David Lloyd George yn gyfaill i鈥檙 teulu Coombe Tennant, ac mae s么n ei bod wedi cael plentyn gyda brawd Alfred Balfour, Gerald.
Roedd ei bywyd personol yn ddiddorol hefyd. Roedd ganddi ddiddordeb mewn ysbrydegaeth (spiritualism) ac yn gwneud ychydig o waith fel cyfryngwraig (medium) o dan yr enw Mrs Willett, er fod hyn yn rhywbeth roedd hi wedi ei gadw'n gyfrinach oddi wrth ei theulu am ddegawdau.
Gwaddol
Roedd y celfyddydau hefyd yn mynd 芒鈥檌 bryd, ac mae hi wedi gadael ei h么l hyd heddiw.
鈥淩oedd hi 芒 diddordeb mawr mewn celf; roedd hi鈥檔 prynu gweithiau meistri (i oriel) Glynn Vivian. Roedd hi鈥檔 datblygu, meithrin a hybu artistiaid ifanc, gan gynnwys Augustus John, Evan Walters a鈥檙 Kyffin Williams ifanc.鈥
Pan fu farw yn 1956, gadawodd rodd ariannol i鈥檙 Eisteddfod yn ei hewyllys.
Roedd Winifred Coombe Tennant yn ddynes ddylanwadol mewn nifer o ffyrdd, meddai Alun Wyn Bevan, a dylai fwy o bobl wybod amdani:
鈥淩oedd hi wedi cyfrannu gymaint, ac mae鈥檔 gywilydd mod i wedi byw rhyw 300 llath o鈥檌 chartref, ac wedi gwybod dim amdani tan rhyw 10 mlynedd yn 么l. Roedd hi鈥檔 fenyw ryfeddol.鈥
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd23 Awst
- Cyhoeddwyd12 Mehefin