Paratoi i arwain Eden a'r Gerddorfa
- Cyhoeddwyd
O Fand Pres Llareggub i arwain Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y ³ÉÈË¿ìÊÖ, mae Owain Roberts yn hen gyfarwydd â cherddoriaeth amrywiol, a llawer o offerynnau!
Y prosiect diweddaraf mae’n ei arwain yw cyngerdd arbennig yn Pontio, Bangor efo neb llai nag Eden ar gyfer ³ÉÈË¿ìÊÖ Radio Cymru. Fo sydd wedi trefnu’r gerddoriaeth i’r gerddorfa. Cafodd Cymru Fyw sgwrs efo Owain cyn y cyngerdd mawr.
Pa bryd ’nes di ddechrau ymddiddori mewn cerddoriaeth?
Dwi cofio mynd efo Dad i bigo fyny fy mrawd mawr o ymarfer band pres Porthaethwy a jyst disgyn mewn cariad gyda sain grŵp mawr o gerddorion mewn ystafell.
Fel llawer o Gymry eraill, ges i gyfleoedd cerddorol arbennig yn yr ysgol gydag eisteddfodau a ballu ond dwi’n gweld fy hun yn dipyn o late developer mewn sawl ffordd gan dim ond yn fy arddegau hwyr nes i fynd yn hollol obsessed gyda cherddoriaeth.
Beth wnaeth dy ddenu at gerddoriaeth gerddorfaol?
Mae cerddoriaeth gerddorfaol fel rhywfath o binacl cerddorol mewn sawl ffordd, ond fel bachgen ifanc mae’n siŵr mai sain ffilmiau fel Star Wars ac Indiana Jones gyda thraciau sain anhygoel John Williams ’naeth ddangos imi botensial a phŵer cerddoriaeth gerddorfaol.
²Ñ²¹±ð’r palette lliwiau y mae cerddorfa yn ei gynnig yn hynod ddeniadol a chyffrous a dwi’n credu fod gan y gerddorfa le arbennig yng nghalonnau cynulleidfaoedd.
Sut fyddi di’n mynd ati i drefnu cân gyfoes neu gân bop ar gyfer cerddorfa?
Mae trefnu unrhyw ddarn yn gofyn i mi adnabod y gerddoriaeth yn drylwyr, sy’n golygu gwrando lot ar y traciau ac yn aml mynd i’r gwely yn eu canu nhw yn fy mhen! Ond dwi bob tro yn dechrau bob prosiect gyda’r teimlad ’mod i heb ddim clem lle i ddechrau...
Oes cyfyngiadau?
Dwi wedi bod yn lwcus i gael gweithio ar amrywiaeth o brosiectau yn y gorffennol – o gerddoriaeth bop, lladin-americanaidd, roc trwm, gwerin, cerdd dant ayyb.
²Ñ²¹±ð’r arddull cerddorol, costau, maint y gerddorfa, y lleoliad, amser, a chyfyngiadau niferus eraill yn aml yn siapio project. Ond yn aml, mae cael y cyfyngiadau yma yn adio i’r elfen greadigol mewn rhyw ffordd ac yn aml gwneud y prosiect yn unigryw.
Oes yna fath penodol o gân bop sy’n gweithio’n well gyda cherddorfa?
Yn y gorffennol, dwi’n ffeindio bod cerddoriaeth syml sy’n ailadroddus yn gofyn lot mwy oddi wrtha’ i o ran fy ochr greadigol ac weithiau mae swydd felly yn troi yn fwy o job gyfansoddi yn hytrach na threfnu cerddoriaeth.
Mae cerddoriaeth pync a dawns yn aml yn gofyn i mi gyfansoddi adrannau cyfangwbl newydd er mwyn adio diddordeb i’r hyn sy’n digwydd. Dwi wrth fy modd gallu adio i ganeuon a bob tro yn ceisio gwneud rhywbeth gwahanol gyda’r gerddoriaeth.
Rwyt ti’n perfformio cerddoriaeth dy hun hefyd, sut mae hynny’n cymharu â threfnu cerddoriaeth ac arwain cerddorfa?
Dwi’n teimlo mymryn o bwysau arna’ i pan dwi’n trefnu cerddoriaeth pobl eraill – dwi eisiau iddynt fod yn hapus gyda sut dwi wedi siapio’u caneuon.
²Ñ²¹±ð’r gerddoriaeth yn aml yn hynod bersonol iddyn nhw felly dwi angen bod yn ofalus ’mod i ddim yn ’neud smonach o’u caneuon! Ond mae pobl hefyd yn disgwyl clywed rhywbeth newydd, felly mae angen dod o hyd i’r cydbwysedd.
Dwi fwyaf cartrefol yn creu cerddoriaeth yn hytrach na’i berfformio – mae perfformio yn ail bob tro i’r creu ac yn rhyw fath o necessary evil i fi mewn sawl ffordd.
Y mantais o gael arwain ydi mod i’n cael cyfle i siapio’r deunydd dwi wedi ei greu a dwi’n mwynhau hynny yn fawr.
Ti wedi gweithio gyda llawer o gerddorion dros y blynyddoedd, sut oedd o’n teimlo mynd i’r afael â chaneuon mor eiconig â rhai Eden?
Wel, yn gyntaf dwi’n teimlo’n hynod lwcus bob tro dwi’n cael gweithio efo’r gerddorfa!
Ond mae o’n bonws pan mae’r grŵp mor dalentog, proffesiynol a lyfli ag Eden! Ac ar ben hynny mae ganddyn nhw gatalog o ganeuon penigamp sy’n llawn amrywiaeth. Fedra’ i’m gofyn am fwy rili. Biti mai dim ond un perfformiad fydd.
Bydd cyngerdd Eden a'r Gerddorfa yn cael ei ddarlledu ar ³ÉÈË¿ìÊÖ Radio Cymru 2 am 11:00 fore dydd Gwener, 29 Tachwedd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mehefin
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2019