成人快手

Ysgolion ar gau oherwydd amodau rhewllyd dros Gymru

  • Cyhoeddwyd
Caernarfon

Mae rhai ysgolion ar gau unwaith yn rhagor ddydd Gwener wrth i'r tywydd rhynllyd barhau.

Mae am i芒 mewn grym tan 10:00 ar draws gogledd, canolbarth a gorllewin Cymru.

Rhybuddiodd y Swyddfa Dywydd bod yna rai ardaloedd rhewllyd, a bod rhai ffyrdd, palmentydd a llwybrau beicio heb eu trin all fod yn beryglus gan achosi anafiadau oherwydd llithro a chwympo.

Roedd 65 o ysgolion ar gau ddydd Iau wedi i eira ddisgyn dros nos.

'Perygl mawr o ddamwain'

Dywedodd fore Gwener fod 30 o ysgolion ar gau yn y sir, gyda phump arall wedi eu cau yn rhannol.

Dywedodd llefarydd ar ran Ysgol y Fair Ddihalog, Hwlffordd bod "yr holl balmentydd cyhoeddus sy'n arwain at yr ysgol eisoes yn llithrig iawn, wedi'u gorchuddio ag eira a rhew".

"Gyda'r rhagolygon y bydd y tymheredd yn parhau o dan y rhewbwynt nes 10:00... rydym yn bryderus y bydd disgyblion, teuluoedd a staff mewn perygl mawr o gael damwain wrth ddod i'r ysgol."

Ffynhonnell y llun, Ysgol y Garnedd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd plant Ysgol y Garnedd yn mwynhau'r eira ddydd Iau

Mae sawl ysgol yng hefyd wedi eu heffeithio gan y tywydd ddydd Gwener.

Dywedodd Ysgol Bro Teifi, yn Llandysul, Ceredigion, bod "amodau peryglus ar y campws gydag eira wedi rhewi yn galed ar y maes parcio a'r iard dros nos".

"Mae amodau teithio anodd i rai hefyd yn golygu bod lefelau staffio yn mynd i fod yn heriol iawn."

Yng hefyd, mae sawl ysgol ar gau yn cynnwys Ysgol Syr Hugh Owen ac Ysgol Tryfan oherwydd safleoedd "peryglus" a "ddiffyg staffio o ganlyniad i'r rhew".

Mae rhai ysgolion yn hefyd wedi eu cau, gan gynnwys Ysgol Bryn Elian.

Dywedodd bod tair ysgol ar gau yn llwyr a thair ar gau yn rhannol oherwydd yr amodau anodd.

Pynciau cysylltiedig