成人快手

'Anodd cael prisiau dan reolaeth' medd rheolwr archfarchnad

  • Cyhoeddwyd
Matthew Hunt
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Matthew Hunt fod "ychydig o ffordd i fynd eto" tan fod prisiau yn 么l dan reolaeth

Mae chwyddiant costau bwyd yn dechrau arafu ond mi fydd yn anodd "cael cynnydd prisiau o dan reolaeth," yn 么l rheolwr cwmni archfarchnadoedd Cymreig.

Dywedodd Matthew Hunt, sy'n rhedeg Filco Supermarkets, fod yna "ychydig o ffordd i fynd eto".

Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos fod chwyddiant bwyd wedi codi i 19.1% yn y flwyddyn hyd at Ebrill.

Yn y cyfamser mae Llywodraeth y DU wedi oedi cynlluniau i wahardd bargeinion 'dau am bris un' ar fwyd sothach.

Dywedodd y Prif Weinidog Rishi Sunak y byddai'n annheg i gyfyngu ar ddewis tra bod prisiau bwyd yn parhau'n uchel.

'Nifer o ffactorau'n gyrru chwyddiant'

Dywedodd Mr Hunt bod yna "sawl ffactor" yn effeithio ar brisiau bwyd a'i fod yn "anodd gweld sut gallwn gael y prisiau o dan reolaeth.

"Deunyddiau crai, ynni, llafur, treth, cyfraddau llog, costau dosbarthu - maen nhw i gyd yn gyrru chwyddiant," dywedodd wrth 成人快手 Radio Wales.

"A thra bod un o'r ffactorau yma efallai'n dod dan reolaeth - er enghraifft costau dosbarthu gyda thanwydd - mae'r lleill i'w gweld yn rhemp."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae prisiau bwyd yn parhau i fod 8.7% yn uwch nag y llynedd

Daw sylwadau Mr Hunt wedi i reolwyr Tesco ddweud bod "arwyddion cynnar calonogol" fod y cynnydd mewn prisiau'n arafu.

Dywedodd Mr Hunt nad yw ei gwmni yn trosglwyddo'r holl gynnydd costau i'w cwsmeriaid ond yn "cyfyngu ar sut rydym yn gweithredu".

Mae'r gyfradd y mae prisiau bwyd yn codi wedi cael ei nodi fel un rheswm am gyfradd uchel chwyddiant, gyda phrisiau'n parhau i fod 8.7% yn uwch nag y llynedd.

Mae llywodraeth y DU wedi awgrymu'r syniad o gap gwirfoddol ar brisiau bwyd sylfaenol, ond nid yw hyn wedi derbyn llawer o gefnogaeth gan y diwydiant.