Gleision: Gwrandawiad cyn cwest i farwolaethau pedwar mewn glofa

Ffynhonnell y llun, Lluniau teulu

Disgrifiad o'r llun, Bu farw Charles Breslin, David Powell, Philip Hill a Garry Jenkins pan lifodd d诺r i lofa'r Gleision

Mae gwrandawiad wedi ei gynnal cyn cwest i farwolaethau pedwar dyn mewn glofa yng Nghastell-nedd Port Talbot ym mis Medi 2011.

Bu farw Charles Breslin, 62, David Powell, 50, Phillip Hill, 44, a Garry Jenkins, 39, pan ddaeth d诺r i mewn i lofa'r Gleision yng Nghilybebyll.

Bu teuluoedd y pedwar yn galw ers blynyddoedd am gwest llawn i ddarganfod beth yn union oedd achos y trychineb.

Fe ddaeth penderfyniad hirddisgwyliedig gan Uwch Grwner Abertawe fis Rhagfyr y llynedd i gynnal cwest, gan ddweud bod "gwir siawns" y gallai'r marwolaethau fod wedi'u hosgoi.

Ddydd Gwener, fe ddywedodd Colin Phillips wrth y gwrandawiad ei bod yn "anodd nodi dyddiad" ar gyfer y cwest ar hyn o bryd, gan fod tystiolaeth sydd angen cael ei chyflwyno.

Ond fe ddywedodd y byddai'n digwydd cyn gynted ag sy'n bosib.

Ffynhonnell y llun, Gwasanaeth Erlyn y Goron

Disgrifiad o'r llun, Fe aeth d诺r i mewn i lofa'r Gleision a bu farw pedwar dyn

Fe glywodd y gwrandawiad pa fath o dystiolaeth fyddai angen ei chynnwys yn y cwest a gan bwy, sef Christian Howells sy'n cynrychioli'r teuluoedd, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, yr Awdurdod Glo, perchnogion MNS Mining LTD, a Heddlu De Cymru.

Ychwanegodd Mr Phillips y byddai'n gofyn i Gyngor Castell-nedd Port Talbot, a ymchwiliodd y lofa'n fuan wedi'r digwyddiad, i gael eu cynnwys hefyd.

Fe wnaeth y crwner gais am sawl dogfen, gan gynnwys trawsgrifiad o'r achos troseddol yn 2014, dogfennau'r ymchwiliad gan Heddlu De Cymru a gwybodaeth gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a'r Awdurdod Glo.

Clywodd y gwrandawiad y byddai pum prif bwynt yn cael eu hystyried yn y cwest.

Maen nhw'n cynnwys hanes, perchnogaeth, cofnod rheoli ac arolygu'r pwll, y camau a gymerwyd i sicrhau asesiadau risg digonol, y fframwaith rheoleiddio ar gyfer glofeydd ar y pryd a sut oedd y fframwaith yn cael ei weithredu, a'r digwyddiadau ar ddiwrnod y trychineb.

Disgrifiad o'r llun, Mae cofeb yn parhau ger y fynedfa i'r hen bwll glo

Fe glywodd y gwrandawiad y byddai cyngor arbenigol yn cael ei roi gan beiriannydd mwyngloddio a daearegwr siartredig.

Argymhelliad arall gan Mr Howells oedd y dylai syrf毛wr arbenigol roi tystiolaeth hefyd.

Bydd penderfyniad yn cael ei wneud yn ddiweddarach ynghylch a ddylai rheithgor fod yn rhan o'r cwest.

Ym mis Hydref, dywedodd Christian Howells, sy'n cynrychioli'r teuluoedd, fod yr Awdurdod Glo a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi methu 芒 sicrhau bod cynlluniau ar gyfer gwaith y pwll yn gyfredol, bod rhagofalon yn cael eu cymryd a bod ail allanfa ar gael ar gyfer y glowyr.

Dadleuodd hefyd nad oedd y ffaith bod mwy nag 11 mlynedd wedi mynd heibio yn rheswm dros beidio ag ailddechrau cwest.