成人快手

Waga: Carcharu tri wedi 'ymchwiliad mwyaf erioed' heddlu

  • Cyhoeddwyd
Josif Nushi, Mihail Dana, Hysland AliajFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

(Chwith i'r dde) Mae Mihal Dhana, Josif Nushi a Hysland Aliaj wedi cael eu carcharu am lofruddio Tomasz Waga

Mae tri dyn wedi cael eu carcharu ar ddiwedd un o ymchwiliadau mwyaf cymhleth Heddlu De Cymru, wedi i ddyn ifanc gael ei ddarganfod yn farw ar ochr stryd yng Nghaerdydd.

Roedd Tomasz Waga, 23, wedi cael ei guro i farwolaeth ar 么l teithio o Lundain gyda'r bwriad o ddwyn canabis o ffatri gyffuriau.

Fe ehangodd ymchwiliad Heddlu'r De i gynnwys aelodau o gangiau o dde-ddwyrain Lloegr, Ewrop ac Albania, ac fe gafodd dynion eu harestio yn Llundain, Yr Almaen ac Albania.

Cafodd Josif Nushi, 27, o Gaerdydd ei ddedfrydu i o leiaf 20 mlynedd o garchar am lofruddiaeth, a Mihal Dhana, 29, o Gaerdydd i o leiaf 16 mlynedd dan glo.

Cafodd Hysland Aliaj, 31, ei ddedfrydu i 10 mlynedd o garchar am ddynladdiad.

Ceisio dwyn canabis o d欧

Roedd y tri dyn wedi ffoi i Albania ar 么l lladd Tomasz Waga, cyn cael eu hestraddodi yn 么l i'r Deyrnas Unedig i sefyll eu prawf.

Clywodd Llys y Goron Casnewydd fod Aliaj yn gweithio fel dyn t芒n yn Albania, ac iddo gael ei wobrwyo am ddewrder am ei waith yn dilyn daeargryn yn wlad.

Cafodd dau ddyn arall, Gledis Mehalla a Mario Qato, eu canfod yn ddieuog o lofruddiaeth.

Yn Ionawr 2021 fe deithiodd Tomasz Waga a dyn arall, Carl Davies, o ddwyrain Llundain i d欧 ar Ffordd Casnewydd yng Nghaerdydd oedd yn cael ei ddefnyddio fel ffatri ganabis.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafwyd hyd i Tomasz Waga yn farw yng Nghaerdydd ddwy flynedd yn 么l

Roedd s么n ymhlith y gangiau fod y ffatri yn un hynod broffidiol, a bod y cyffuriau yn y t欧 werth o leiaf 拢120,000.

Cyn y dedfrydu clywodd y llys fod y t欧 yn cynnwys 572 o blanhigion canabis fyddai'n creu rhwng 16 a 48 kilo o'r cyffur, gyda gwerth y cnwd rhwng 拢64,000 a 拢250,000.

Ond, ar 么l i Tomasz Waga a Carl Davies dorri mewn i'r t欧, roedd un o'r bobl oedd yn gwarchod y cyffuriau wedi ffonio am help - o fewn dim roedd llond car o ddynion ar eu ffordd i ddiogelu eu crop.

Fe wnaeth y criw ymosod ar Tomasz Waga a Carl Davies gyda brics a batiau p锚l-fas, ac fe gafodd Tomasz Waga ei lusgo i mewn i gar Mercedes.

'Ymosodiad ciaidd'

Yn ddiweddarach cafodd ei gorff ei ddarganfod ar gyrion parc yn ardal Pen-y-lan y ddinas.

Clywodd y llys fod Nushi yn arfer ffermio yn Albania, ac iddo deithio i'r Deyrnas Unedig i ennill mwy o arian i'w deulu.

Bu'n gweithio'n peintio a phapuro tai, cyn troi at fywyd troseddol.

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Tomasz Waga a Carl Davies wedi mynd i d欧 yng Nghaerdydd i geisio dwyn planhigion canabis oedd yno

Roedd Dhana hefyd wedi gadael Albania i ennill mwy o arian i gynnal ei deulu yn ei famwlad.

Dywedodd y barnwr, Mr Ustus Cotter, fod Tomasz Waga wedi cael ei daflu o'r car yn farw.

"Roedd wedi dioddef ymosodiad ciaidd wnaeth achosi nifer o anafiadau," meddai.

"Mae poen a dioddefaint ei deulu yn mynd i barhau am byth. Iddyn nhw mae'n ddedfryd oes."

'Poen annisgrifiadwy'

Ar ddiwedd y dedfrydu cafodd datganiad gan chwaer Tomasz Waga ei ddarllen yn y llys.

Dywedodd Patrycja Waga fod y ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn anioddefol iddi hi a'i theulu, a bod gweld mab bychan ei brawd yn tyfu fyny heb ei dad yn torri ei chalon.

"Rwyf wedi bod yn byw o ddydd i ddydd ers hynny," meddai, "ac mae'r boen o fethu bod yno i helpu fy mrawd yn ei funudau olaf yn annisgrifiadwy.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafwyd hyd i gorff Tomasz Waga ym Mhen-y-lan, Caerdydd

"Doedd digwyddiadau 28 Ionawr, 2021 ddim yn cyfiawnhau lladd fy mrawd achos does 'na neb yn haeddu cael eu lladd gan rywun arall, neu waeth gan fwy nag un person arall.

"Roedd 'na ffyrdd y gallai'r sefyllfa fod wedi cael ei setlo na fyddai wedi arwain at ei farwolaeth."

Mae Heddlu'r De yn dweud mai ymchwiliad llofruddiaeth Tomasz Waga yw'r ymchwiliad mwyaf iddyn nhw gynnal erioed, a bod pob un ditectif wedi bod yn rhan o'r ymchwiliad ar un adeg.