成人快手

Enwi dyn gafodd ei ganfod yn farw ar stryd yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Tomasz WagaFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed teulu Tomasz Waga y byddai'n "byw yn ein calonnau am byth"

Mae'r heddlu wedi enwi'r dyn gafodd ei ganfod yn farw ar stryd yng Nghaerdydd nos Iau.

Mae marwolaeth Tomasz Waga, 23 oed, yn cael ei drin gan Heddlu'r De fel achos o lofruddiaeth.

Cafodd corff Mr Waga ei ganfod gan aelod o'r cyhoedd yn Westville Road, Penylan, ddydd Iau tua 23:30.

Mae ei deulu wedi talu teyrnged iddo gan ddweud bod "nifer o bobl yn ei garu ac mae wedi cael ei gymryd oddi wrthym ni'n rhy gynnar".

"Rydyn ni wedi ein llorio gan ei farwolaeth sydyn ac rydyn ni'n gofyn i unrhyw un sydd 芒 gwybodaeth i ddod ymlaen," meddai'r teulu mewn datganiad.

"Bydd yn byw yn ein calonnau am byth a bydd yn cael ei gofio fel y mab, brawd, tad a phartner dymunol yr oedd."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu Westville Street yn ardal Penylan ar gau wrth i'r heddlu ymchwilio

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Mark O'Shea, sy'n arwain yr ymchwiliad, fod Mr Waga wedi teithio o ardal Dagenham yn Llundain ddydd Iau i gyfeiriad ar Ffordd Casnewydd.

"Credwn fod aflonyddwch wedi digwydd tua 22:30 yn y lleoliad hwn, pan yr ymosodwyd arno.

"Mae ymholiadau'n parhau i sefydlu sut y daeth i fod yn Westville Road lle cafodd ei ddarganfod."

Ychwanegodd fod tua 80 o swyddogion a staff yn gweithio ar yr ymchwiliad ac "rydym yn ddiolchgar am yr ymateb gan y cyhoedd hyd yn hyn".

Ond mae'r llu yn awyddus i siarad ag unrhyw un a oedd yn ardaloedd Ffordd Casnewydd a Westville Road neu'n gyrru drwodd rhwng 22:00 a hanner nos ddydd Iau, 28 Ionawr.

Mae Heddlu'r De wedi sefydlu ystafell ddigwyddiadau yng Ngorsaf Heddlu Ganolog Caerdydd.