成人快手

Ble nesaf i rygbi Cymru ym mlwyddyn Cwpan y Byd?

  • Cyhoeddwyd
Cymru ar ol colli yn erbyn Yr EidalFfynhonnell y llun, Getty Images

Yn dilyn blwyddyn gythryblus yn hanes rygbi Cymru, gohebydd chwaraeon 成人快手 Cymru, Cennydd Davies sy'n pwyso a mesur.

Mae wythnos yn amser hir ym myd gwleidyddiaeth medden nhw, os felly mae blwyddyn yn hanes rygbi Cymru yn teimlo fel cenhedlaeth!

Roedd y 12 mis diwethaf heb os yn gyfnod cythryblus i'r gamp ac wrth i'r flwyddyn ddirwyn i ben mae nifer o gwestiynau dwys dal heb eu hateb ac mae'r dyfodol ar sawl lefel ymhell o fod yn sefydlog.

N么l ar ddechrau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad roedd y t卯m cenedlaethol ar groesffordd, ac fe ddaeth y ffaeleddau hynny i'r wyneb wrth golli'n drwm yn Nulyn.

Roedd rhywfaint o gysur wrth drechu'r Alban ond gwaethygu wnaeth yr ymgyrch wrth golli am y tro cyntaf erioed yng Nghaerdydd yn erbyn Yr Eidal, a swydd Wayne Pivac o'r herwydd yn y fantol.

Ffynhonnell y llun, Oisin Keniry
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth Merched Cymru guro'r Alban ac Iwerddon yn 2022

Tra roedd y dynion yn baglu roedd 'na wawr newydd o ran g锚m y merched wrth gyflwyno cytundebau proffesiynol am y tro cyntaf, ac fe gafodd ffrwyth hynny ei weld yn syth.

Cipiwyd dwy fuddugoliaeth ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad dros Iwerddon a'r Alban, cyn camu ymlaen i rownd wyth olaf Cwpan y Byd yn yr hydref.

Megis dechrau yw'r daith i'r garfan o dan hyfforddiant Ioan Cunningham, ac mae 'na waith eto i'w gyflawni, ond am y tro cyntaf ers tro mae 'na obaith o'r newydd a seiliau cadarn wedi eu gosod ar gyfer y dyfodol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Ar 么l colli yn erbyn Yr Eidal, taith i Dde Affrica oedd yn wynebu Wayne Pivac a'i d卯m yn yr haf - taith oedd yn ymddangos yn arswydus ar 么l plymio i'r dyfnderoedd yn y gwanwyn.

Ond mewn tair g锚m brawf roedd yr ymwelwyr yn fwy na chystadleuol wrth ennill g锚m brawf yn Ne Affrica am y tro cyntaf erioed, ac er mai'r Springboks enillodd y gyfres yn y pen draw, roedd y perfformiadau i'w clodfori wrth brofi nifer o wybodusion yn anghywir.

Llechen l芒n?

Roedd Cyfres yr Hydref felly yn gyfle i ddechrau 芒 llechen l芒n er gwaethaf diffygion y g锚m ranbarthol, ond fe gafodd y gobaith hynny ei ddiffodd yn gyflym iawn.

Doedd dim byd newydd o gael crasfa yn erbyn Seland Newydd ond roedd y gwaethaf eto i ddod.

Roedd 'na deimlad nad oedd y t卯m yn tanio ac yn symud i'r cyfeiriad cywir, ond prin fyddai unrhyw un wedi proffwydo colli yn erbyn Georgia am y tro cyntaf erioed i adael Cymru yn y dyfnderoedd, a Wayne Pivac ar y dibyn.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dyna mewn gwirionedd oedd diwedd y daith, ac roedd , dolen allanol yn cadarnhau'r hyn roedd pawb yn ei wybod - bod ei gyfnod wrth y llyw ar ben.

Roedd angen i Undeb Rygbi Cymru weithredu, ac er mwyn codi o'r pydew roedd rhaid troi at wyneb cyfarwydd.

Am yr eildro felly Warren Gatland sydd 芒'r dasg o atal tranc y t卯m cenedlaethol a'i harwain at Gwpan y Byd yn Ffrainc y flwyddyn nesa'.

Ond a fydd ei ddylanwad mor ysgytwol ag oedd yn ei gyfnod cyntaf wrth y llyw? Amser a ddengys!

Ffynhonnell y llun, David Rogers

Wrth i'r flwyddyn ddirwyn i ben mae problemau rygbi Cymru yn hysbys i'r t卯m cenedlaethol sy'n tangyflawni.

Ac er bod ambell fuddugoliaeth galonogol ac annisgwyl yn Ewrop, mae'r rhanbarthau at ei gilydd yn dal i straffaglu.

Mae cyllidebau'r rhanbarthau yn aneglur o hyd, a chytundebau chwaraewyr o ganlyniad heb eu datrys.

Mae rhai fel Will Rowlands o'r Dreigiau a chanolwr Caerdydd Max Llewellyn eisoes wedi penderfynu codi pac.

Os nad oes 'na benderfyniad cyflym yn y flwyddyn newydd yna fe fydd eraill yn dilyn.

Dyw dilyn Rygbi Cymru byth yn dasg hawdd ond dyw hi byth yn undonog chwaith. Dalwch ymlaen yn dynn - mae 2023 yn argoeli i fod yn dipyn o daith!