成人快手

Dau achos positif yng ngharfan Rygbi Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Cape TownFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r Scarlets bellach wedi llwyddo i adael Cape Town - ond mae Rygbi Caerdydd yn dal yno

Mae Rygbi Caerdydd wedi methu 芒 dychwelyd o Dde Affrica oherwydd bod dau achos positif o Covid bellach wedi eu cadarnhau o fewn eu carfan deithio.

Dywedodd y rhanbarth mewn datganiad fod amheuaeth mai amrywiolyn newydd Omicron oedd un o'r achosion - ac mae'r t卯m a'r staff nawr yn gorfod dychwelyd i'w gwesty i hunan ynysu.

Ers dydd Gwener mae Caerdydd a'r Scarlets wedi bod yn ceisio dychwelyd adref, ar 么l cael eu dal yn Ne Affrica wedi i'r wlad gael ei rhoi ar 'restr goch' y DU ddydd Gwener.

Mae'r Scarlets bellach ar awyren breifat o Cape Town, ond oherwydd y ddau brawf PCR positif o nos Sadwrn dydy Caerdydd ddim wedi gallu ymuno 芒 nhw.

Yn gynharach dywedodd cadeirydd y Scarlets, Simon Muderak, ei bod hi'n debygol y bydd y t卯m yn glanio yn Nulyn ac yna'n cael eu trosglwyddo i westy ym Melffast i hunan-ynysu.

'Sefyllfa heriol'

Cafodd De Affrica a nifer o wledydd eraill yn ne cyfandir Affrica eu rhoi ar y rhestr goch ddydd Gwener, a hynny tra bod Caerdydd a'r Scarlets yno'n paratoi ar gyfer gemau yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig.

Fe fethodd y ddau ranbarth 芒 dychwelyd i Brydain cyn 04:00 fore Sul, fyddai wedi golygu osgoi gorfod treulio 10 diwrnod o gwarantin mewn gwesty.

Dywedodd Rygbi Caerdydd eu bod yn parhau i weithio gydag undebau rygbi De Affrica a Chymru, yn ogystal ag awdurdodau iechyd, er mwyn gweld beth fydd eu cam nesaf.

"Mae'r clwb hefyd yn gweithio gyda'r holl awdurdodau perthnasol i sicrhau bod y gr诺p cyfan yn gallu dychwelyd i Gymru pan mae'n saff ac yn briodol," meddai'r rhanbarth mewn datganiad.

Ffynhonnell y llun, Cardiff Rugby
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae gemau Caerdydd yn erbyn y Lions a'r Stormers eisoes wedi'u gohirio - ond does dim sicrwydd eto pryd all y garfan ddychwelyd adref

"Hoffai bawb sydd ynghlwm a'r sefyllfa heriol tu hwnt yma ddiolch i'w teuluoedd, ffrindiau, cydweithwyr a'r teulu rygbi ehangach am eu negeseuon niferus o gydymdeimlad a dymuniadau gorau."

Mae'n golygu amheuon dros g锚m nesaf Caerdydd, sydd i fod i herio Toulouse yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop ar Barc yr Arfau ar 11 Rhagfyr.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "ddrwg i glywed" am yr achosion positif yng ngr诺p teithio Caerdydd.

"Rydym yn dymuno gwellhad buan iddynt ac yn edrych ymlaen at weld y t卯m a'r staff yn 么l yng Nghymru," meddai.

Toc wedi 14:30 brynhawn Sul fe wnaeth cadeirydd y Scarlets, Simon Muderack drydar fod eu chwaraewyr a'r staff bellach wedi gadael Cape Town, ac ar eu ffordd yn 么l i Ewrop gyda charfan Zebre.

Roedd y clwb o'r Eidal hefyd yn Ne Affrica ar gyfer gemau yn yr un gystadleuaeth - yn ogystal 芒 Munster o Iwerddon, sydd yn yr un sefyllfa 芒 Chaerdydd wedi iddyn nhw hefyd gael achos Covid positif.