成人快手

Cau ffordd yn Nefyn wedi i fwd lithro mewn tywydd garw

  • Cyhoeddwyd
Nefyn

Mae'r heddlu wedi cau ffordd yn Nefyn ym Mhen Ll欧n wedi i "dywydd difrifol" achosi mwd i lithro ar hyd y l么n.

Yn 么l Heddlu Gogledd Cymru mae L么n Gam - y ffordd i lawr at draeth Nefyn - yn parhau ynghau.

Yn gynharach eleni fe gwympodd darn enfawr o glogwyn uwchben traeth Nefyn yn dilyn tirlithriad.

Dywedodd Nick Kerr, sy'n byw yn lleol, fod glaw trwm dros y 24 awr ddiwethaf wedi cau sawl ffordd yn yr ardal.

"Dydy pobl methu mynd lawr at y traeth - does 'na ddim ffordd lawr ac mae llwybr yr arfordir wedi cael ei gau," meddai.

"Mae clogwyni Nefyn yn eithaf bregus - mwd a chlai ydyn nhw gan fwyaf, ac mae'n llithro lawr y bryn."

Pynciau cysylltiedig