成人快手

Rhybudd melyn am law trwm yng Nghymru nos Lun

  • Cyhoeddwyd
Darogan TywyddFfynhonnell y llun, Y Swyddfa Tywydd

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio y bydd y rhan fwyaf o Gymru yn cael glaw trwm nos Lun.

Daeth y rhybudd melyn i rym am 17:00.

Mae yna rybudd y gallai'r glaw trwm arwain at lifogydd mewn rhai ardaloedd ac mae'n bosib y bydd oedi i deithiau trenau a bysiau ar draws Cymru.

Mae disgwyl i tua 20-30mm o law ddisgyn o fewn ychydig oriau ond gallai rhai ardaloedd yn ne a gogledd-orllewin Cymru gael hyd at 40-50mm.

Mae gyrwyr hefyd wedi'u rhybuddio i gymryd gofal, gan y gallai llifogydd ar heolydd greu amodau gyrru peryglus.

Disgwylir i'r glaw gael effaith ar y siroedd canlynol:

  • Abertawe

  • Blaenau Gwent

  • Bro Morgannwg

  • Caerdydd

  • Sir Gaerfyrddin

  • Caerffili

  • Casnewydd

  • Castell-nedd Port Talbot

  • Ceredigion

  • Conwy

  • Gwynedd

  • Merthyr Tudful

  • Sir Fynwy

  • Sir Benfro

  • Pen-y-bont ar Ogwr

  • Powys

  • Rhondda Cynon Taf

  • Torfaen

  • Ynys M么n

Pynciau cysylltiedig