成人快手

Covid a phlant: Hanner achosion yn y tri mis diwethaf

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
YsgolFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae nifer y plant mewn ysbytai ym Mae Abertawe gyda Covid-19 wedi cynyddu'n sylweddol dros y tri mis diwethaf, meddai'r bwrdd iechyd.

Ers dechrau'r pandemig ym Mawrth 2020, mae 93 o blant o dan 15 oed yn ardaloedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot wedi bod angen triniaeth ysbyty am y feirws.

Ond fe gafodd bron i hanner y cyfanswm yna - 45 o blant - eu trin yn ystod misoedd Gorffennaf, Awst a Medi.

Mae'r cynnydd yn cydfynd 芒 chynnydd yn nifer yr achosion ymysg plant oedran ysgol uwchradd yn yr ardal - sydd eisoes wedi cyrraedd 1 ymhob 50 person dan 18.

"Mae'r achosion yma yn dangos nad ydy plant yn hollol ddiogel o effeithiau Covid-19, ac maent yn medru bod yn s芒l iawn," meddai cyfarwyddwr iechyd cyhoeddus Bae Abertawe, Dr Keith Reid.

"Ond dydy hyn ddim yn syndod wrth ystyried y cynnydd serth yn nifer y plant ysgol uwchradd sydd nawr yn dal Covid."

Ychwanegodd: "Yn anffodus, mae cynnydd hefyd wedi bod yn nifer y plant ysgol gynradd sy'n dal y feirws.

"Mae gan Fae Abertawe un o'r cyfraddau Covid-19 uchaf yn y DU a phobl ifanc - yn enwedig pobl dan 18 - yw'r gr诺p sy'n gweld y nifer uchaf o achosion."

Fe fydd Bwrdd Iechyd Bae Abertawe yn dechrau ei hymgyrch i frechu plant 12-15 oed o 4 Hydref ymlaen.