Afghanistan: 'Cymru'n gweithio'n galed i fod yn genedl noddfa'
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru'n "gweithio'n galed iawn" i sicrhau cartrefi i bobl sy'n ffoi o Afghanistan, yn ôl y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol.
Dywedodd Jane Hutt wrth ³ÉÈË¿ìÊÖ Cymru eu bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol a gweinidogion y DU i fod yn "genedl noddfa".
Mae'r mwyafrif o'r 22 cyngor lleol eisoes wedi cynnig darparu cartrefi i ffoaduriaid sy'n dianc o'r gwrthdaro yn Afghanistan.
Mae ³ÉÈË¿ìÊÖ Cymru wedi holi pob awdurdod lleol i weld os ydyn nhw'n cefnogi Polisi Adleoliad a Chymorth Llywodraeth y DU, sy'n annog cynghorau i ddarparu lloches i bobl yn gadael Afghanistan.
Erbyn hyn mae 17 wedi ateb, gyda'r mwyafrif yn dweud y byddan nhw'n cynnig tai i bobl mewn angen.
Mae tua 30 o dai wedi'u gynnig yn gyfan gwbl, gyda chyngor Wrecsam yn darparu'r nifer uchaf wrth ganiatáu 10 o gartrefi ychwanegol.
Yn y cyfamser, mae Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford wedi dweud fod Cymru'n "gwneud popeth yn ein gallu i gefnogi pobl sy'n gadael Affganistan".
Dywedodd Ms Hutt y byddai angen cyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU i roi trefniadau ar waith.
"Mae'n rhaid i adnoddau fod y tu ôl i hynny oherwydd rydyn ni'n gwybod bod yr adnoddau'n hanfodol bwysig i'r ffoaduriaid a'r ceiswyr lloches rydyn ni eisoes yn eu croesawu yng Nghymru," meddai.
"[M]ae angen iddyn nhw ein cefnogi ni a'n hawdurdodau lleol i gyflawni'r ymrwymiadau hynny."
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Yn ddiweddar mae Andrew Morgan, sy'n arwain Cymdeithas Llywodraeth Lleol Cymru, wedi trafod y "golygfeydd erchyll" yn Afghanistan ar gyfryngau cymdeithasol.
Dywedodd Mr Morgan, arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, bod uwch gynghorwyr ar draws y wlad wedi trafod "sut allwn ni darparu lloches i gyfieithwyr Afghan a'u teuluoedd" gyda Llywodraeth y DU nos Lun.
Ond mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi dweud nad oes ganddyn nhw yr adnoddau ar hyn o bryd i gynnig cymorth fel rhan o'r cynllun.
Dywedodd y cyngor bod "pwysau ar y stoc tai lleol" o ganlyniad i ddigartrefedd a'r llifogydd yn Sgiwen yn golygu na fydd modd iddyn nhw helpu'r tro hwn.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Awst 2021
- Cyhoeddwyd11 Awst 2021
- Cyhoeddwyd16 Awst 2021