成人快手

Dull gofalus 'ddim yn gynaliadwy' i wyliau a busnes

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
A line up of cows at the Royal Welsh ShowFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth y Sioe Frenhinol ddathlu ei phen-blwydd yn 100 yn 2019

Gallai gwyliau a digwyddiadau mawr yng Nghymru gael eu gadael ar 么l "os nad oes dyddiad penodol ar gyfer dod 芒 chyfyngiadau Covid i ben," medd trefnwyr y Sioe Fawr yn Llanelwedd.

Mae Lloegr wedi nodi 19 Gorffennaf fel dyddiad codi'r cyfyngiadau, ac mae'r Alban yn bwriadu eu codi ar 9 Awst.

Ond does dim dyddiad wedi ei nodi yng Nghymru hyd yma.

Dywed Steve Hughson o Gymdeithas y Sioe Frenhinol nad yw bod yn "ofalus bellach yn gynaliadwy".

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn adolygu'r sefyllfa bob tair wythnos.

'Rhwystredigaeth a dryswch'

Ychydig o newidiadau sydd wedi bod i'r rheolau yng Nghymru ers 7 Mehefin wedi i'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, ddweud ei fod am oedi am ychydig er mwyn "gostwng y niferoedd sy'n gorfod cael triniaeth ysbyty" a rhoi mwy o amser i frechu'r boblogaeth.

Ers 7 Mehefin mae hyd at 4,000 o bobl yn sefyll neu 10,000 yn eistedd wedi gallu mynychu nifer o ddigwyddiadau awyr agored, fel cyngherddau a gemau chwaraeon.

Mae trefnwyr wedi gorfod cynnal asesiadau risg llawn a chyflwyno mesurau i atal yr haint rhag lledu.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae niferoedd cyfyngedig wedi cael gwylio digwyddiadau fel gemau p锚l-droed ers mis Mehefin, ond ychydig o newid sydd wedi bod ers hynny

Mae Sioe Amaethyddol 2021 yn cael ei chynnal yn rhithiol am yr ail flwyddyn yn olynol, ond mae'r trefnwyr yn gobeithio y bydd y sioe yn cael ei chynnal yn Llanelwedd yn 2022.

Dywedodd Mr Hughson, prif weithredwr Cymdeithas y Sioe Amaethyddol Frenhinol: "Mae'r gwahaniaethau ar draws y ffin yn achosi rhwystredigaeth, anfanteision masnachol a dryswch.

"Ry'n ni am i Lywodraeth Cymru ystyried y mater yn ofalus ac mae cryn bwysau arnynt i wneud cyhoeddiad yn ystod yr wythnosau nesaf.

"Mae yna ofnau y bydd Cymru yn cael ei gadael ar 么l."

Ychwanegodd: "Rwy'n llongyfarch Llywodraeth Cymru ar eu harweiniad gofalus ac ar y cynllun brechu ond bellach dyw gweithredu dull mor ofalus ddim yn gynaliadwy.

"Allwn ni bellach ddim gweithredu fel hyn pan mae Lloegr a'r Alban yn agor. Fe fyddwn yn cael ein gadael ar ein pennau ein hunain."

Awgrym yn unig 'ddim yn ddigonol'

Dywedodd Llyr ap Gareth, o Ffederasiwn y Busnesau Bach yng Nghymru, bod cael awgrym bod newid ar y gweill yn bwysig, ond "ddim yn ddigonol".

"Mae 'na gryn ddryswch wedi cael ei greu yng Nghymru ymysg busnesau yn dilyn be' 'nath Boris Johnson ddweud ddechrau'r wythnos. Mae 'na ddryswch hefyd ymysg y cyhoedd."

Ychwanegodd: "Felly mae awgrym yn un peth, ond os ydan ni'n symud o ochr gyfreithiol, dydy o ddim yn ddigonol i ddweud bod ni'n gadael pethau fynd fel oedd hi cyn Covid.

"Mae 'na elfen yma lle mae angen dipyn o arweiniad i fusnesau, a be' mae hynny'n feddwl yn ymarferol: maen nhw angen dyddiadau yngl欧n 芒 phryd maen nhw'n gallu cael staffio i fewn, pryd maen nhw'n gallu cael stoc i mewn, ond hefyd maen nhw angen gallu cael gwybod be ydy safle nhw yn gyfreithiol - er enghraifft os ydyn nhw'n dehongli bod angen i gwsmer wisgo mwgwd, ydyn nhw hefo'r hawl i 'neud hynny...

"Mae rhain i gyd yn gwestiynau dyrys, ac mae angen amser i gael y drafodaeth yna - be' 'di r么l busnesau, be' 'di r么l ni fel unigolion pan da ni'n mynychu busnesau, a be' 'di r么l newydd Llywodraeth Cymru mewn unrhyw sefyllfa sy'n codi r诺an?"

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae penderfyniadau ar y ffordd ymlaen o ran llacio cyfyngiadau ar gyfer digwyddiadau yn rhan o'r adolygiad sy'n cael ei gynnal bob 21 diwrnod."

Pynciau cysylltiedig