成人快手

Cymru i herio'r Weriniaeth Siec mewn g锚m bwysig

  • Cyhoeddwyd
bants ymarferFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd hwyliau da ymysg chwaraewyr Cymru yn yr ymarfer ddydd Llun

Bydd Cymru yn herio'r Weriniaeth Siec yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fawrth mewn g锚m bwysig yn yr ymgyrch i geisio cyrraedd Cwpan y Byd 2022 yn Qatar.

Fe gollodd Gymru eu g锚m gyntaf yn y gr诺p rhagbrofol yn erbyn Gwlad Belg, tra bod yr ymwelwyr nos Fawrth wedi cael dechreuad calonogol iawn i'w hymgyrch nhw.

Ar 么l rhoi crasfa o 6-2 i Estonia yn eu g锚m agoriadol oddi cartref, fe lwyddodd y Sieciaid i hawlio pwynt allweddol yn erbyn y Belgiaid yn Prague.

Gyda nifer yn rhagweld mai Gwlad Belg fyddai'n gorffen ar frig y gr诺p, roedd hi'n ganlyniad sydd nawr yn rhoi pwysau ychwanegol ar Gymru i gael canlyniad positif nos Fawrth.

Dim ond un wlad sydd yn cael mynd drwodd i Qatar yn awtomatig, gyda phwy bynnag sy'n gorffen yn ail yn y gr诺p yn hawlio'u lle yn y gemau ail-gyfle.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe ddychwelodd Hal Robson-Kanu, Tyler Roberts a Rabbi Matondo i'w clybiau ddydd Llun

Ond dydy digwyddiadau oddi ar y cae heb fod o fudd i baratoadau Cymru chwaith.

Ddydd Llun, cafodd tri chwaraewr - Hal Robson-Kanu, Tyler Roberts a Rabbi Matondo - eu rhyddhau o'r garfan am eu bod wedi "torri protocol".

Yn y cyfamser, mae Cymdeithas B锚l-droed Cymru yn chwilio am brif weithredwr newydd yn sgil ymadawiad Jonathan Ford.

Hyn oll wrth i Robert Page orfod cymryd yr awenau fel rheolwr dros dro yn absenoldeb Ryan Giggs - mae cyfnod mechn茂aeth Giggs wedi ei ymestyn ar 么l iddo wadu cyhuddiad o ymosod ar ei bartner ym mis Tachwedd.

Mae'r chwaraewr canol cae Aaron Ramsey a'r amddiffynwyr Ben Davies a Tom Lockyer eisoes wedi gorfod gadael y garfan oherwydd anafiadau, ac ni fydd Cymru chwaith yn gallu galw ar brofiad Joe Allen ynghanol y cae.

Bu'n rhaid i Allen adael y cae o fewn munudau erbyn Gwlad Belg nos Fercher - ei ymddangosiad cyntaf dros ei wlad ers 2019.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Tom谩拧 Sou膷ek - a sgoriodd hat-tric i'r Weriniaeth Siec yn erbyn Estonia - ydy un o s锚r y gwrthwynebwyr nos Fawrth

Ond ar y cae, mae perfformiadau diweddar wedi rhoi rheswm dros fod yn obeithiol.

Er i Gymru golli yng Ngwlad Belg, roedd y perfformiad yn un parchus ac roedd g么l Harry Wilson yn uchafbwynt amlwg.

Nos Sadwrn, cafwyd buddugoliaeth nodedig mewn g锚m gyfeillgar yn erbyn Mecsico, sy'n nawfed ar restr detholion y byd FIFA.

Ac fe fydd James Lawrence yn ei 么l wedi iddo fethu'r g锚m yn erbyn Mecsico oherwydd rheolau'n ymwneud 芒 Covid yn Yr Almaen, lle mae'n chwarae ei b锚l-droed domestig.