Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
8.7% o boblogaeth Cymru wedi cael eu brechlyn cyntaf
Mae'r Gweinidog Iechyd yn dweud bod Cymru'n gwneud "cynnydd da" o ran brechu, gan gadarnhau bod 8.7% o'r boblogaeth bellach wedi'u hamddiffyn.
Ychwanegodd Vaughan Gething bod Cymru "ar y trywydd iawn" i gynnig brechlynnau i'r pedwar gr诺p blaenoriaeth uchaf erbyn canol mis Chwefror.
Mae 270,833 o bobl yng Nghymru bellach wedi derbyn eu brechlyn cyntaf yn erbyn Covid-19.
Ond 543 yn unig sydd wedi derbyn eu hail frechiad oherwydd y canllawiau ledled y DU sy'n blaenoriaethu rhoi pigiad cyntaf i gymaint o bobl 芒 phosib i ddechrau.
Nod o 140,000 yr wythnos
Dywedodd Mr Gething wrth gynhadledd Llywodraeth Cymru ddydd Llun: "Rydym wedi brechu 8.7% o'r boblogaeth mewn saith wythnos yn unig. Brechu yw ein prif flaenoriaeth.
"Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod pobl yn cael y brechlyn cyn gynted 芒 phosib."
Ychwanegodd fod brechu mwy na 20,000 o bobl bob dydd yn bosib yn "rheolaidd os oes gennym y cyflenwad", gan ddweud mai'r nod ydy brechu "dros 140,000 bob wythnos yn rheolaidd".
Mae'r gyfradd achosion coronafeirws trwy Gymru gyfan yn parhau i ostwng - dros y saith diwrnod diwethaf roedd 231 achos ar gyfer pob 100,000 o boblogaeth.
Fe wnaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru gofnodi 23 o farwolaethau ac 872 o achosion newydd ddydd Llun.
Mae hynny'n golygu bod 188,583 o bobl wedi cael prawf positif am Covid-19 yng Nghymru bellach, a 4,553 o'r rheiny wedi marw.
Ansicr a ydy targed wedi'i gyrraedd
Roedd 'na ddyfalu cyn y gynhadledd i'r wasg a fyddai'r llywodraeth wedi cyrraedd y targed o frechu dros 70% o bobl dros 80 oed erbyn diwedd y penwythnos, ond dywedodd Mr Gething nad oedd yr holl ddata ar gael i ateb y cwestiwn hwnnw.
Roedd y Prif Weinidog, Mark Drakeford wedi rhybuddio ddydd Gwener na fyddai'r ffigyrau hynny ar gael ar ddechrau'r wythnos.
Ychwanegodd y Gweinidog Iechyd yn y gynhadledd ddydd Llun: "Byddwn yn gwybod yn ystod y diwrnod neu ddau nesaf os ydym wedi cyrraedd 70%.
"Rydym yn gwybod bod mwy na 70% o weithwyr cartrefi gofal wedi'u brechu.
"Dros y penwythnos, gwelsom eira sylweddol ar draws rhannau helaeth o Gymru, ac mae hyn wedi cael effaith ar y rhaglen frechu."
Er y bu'n rhaid canslo rhai apwyntiadau brechu oherwydd y tywydd, mynnodd Mr Gething na fydd "unrhyw frechlyn yn cael ei wastraffu".
Dywedodd y Gweinidog Iechyd yn y gynhadledd fod pobl dros 70 oed bellach yn dechrau cael cynnig y brechlyn mewn rhai ardaloedd oherwydd y "cynnydd da" sy'n cael ei wneud wrth frechu pobl dros 80 oed.
"Erbyn diwedd yr wythnos hon rwy'n disgwyl y bydd pob bwrdd iechyd wedi cyhoeddi llythyrau at bobl dros 70 o fewn eu poblogaeth felly bydd y ddau gr诺p nesaf yn dechrau derbyn yr apwyntiadau brechu hynny," meddai.
'Dim llacio sylweddol'
Er y cynnydd yn nifer y brechiadau, rhybuddiodd Mr Gething na ddylai'r cyhoedd ddisgwyl unrhyw lacio sylweddol ar y cyfyngiadau Covid yn ystod yr wythnosau nesaf.
Bydd Mr Drakeford yn cyhoeddi canfyddiadau'r adolygiad tair wythnos i gyfyngiadau coronafeirws ddydd Gwener.
Ond ychwanegodd Mr Gething "na ddylai unrhyw un ddisgwyl llacio sylweddol o'r mesurau clo presennol".
Dywedodd er bod achosion yn gostwng, bod "lefelau eithaf uchel o coronafeirws o hyd" a bod GIG Cymru "yn dal i fod o dan lawer o bwysau".
Gwrthbleidiau'n croesawu'r cynnydd
Mae'r gwrthbleidiau wedi croesawu'r cynnydd mewn cyfraddau brechu yng Nghymru dros y dyddiau diwethaf, ond yn rhybuddio na ddylid llacio ar yr ymdrech wrth symud ymlaen.
Dywedodd arweinydd newydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies, ei bod yn "dda iawn gweld bod pawb yn tynnu at ei gilydd i adeiladu ar y cynnydd hwn wrth gyflwyno'r brechlyn".
Ond rhybuddiodd fod "rhaid ailadrodd y cyfan eto" wrth ddarparu'r ail ddos.
Ychwanegodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, ei bod yn "wych gweld yr ymdrechion arwrol dros yr ychydig ddyddiau diwethaf, ac mae 'na groeso mawr i'r cynnydd enfawr yma yn y gyfradd frechu".
Ond dywedodd ei bod yn "bwysig iawn nawr nad ydym yn gweld unrhyw lacio, oherwydd p'un a yw Llywodraeth Cymru wedi cyrraedd y targed ai peidio, bydd llawer o bobl yng Nghymru yn y gr诺p blaenoriaeth uchaf fydd am gael eu brechu eto".