成人快手

'Ar drywydd cyrraedd targed blaenoriaethau brechu'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
PigiadFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Llywodraeth Cymru ar y trywydd cywir i gyrraedd ei charreg filltir gyntaf o frechu'r pedwar prif gr诺p blaenoriaeth erbyn canol Chwefror, yn 么l y Prif Weinidog.

Dywedodd Mark Drakeford fod "gwaith anferthol yn digwydd yng Nghymru i wneud i hynny ddigwydd", a bod mwy o bobl wedi cael eu brechu yn y chwe wythnos ers dechrau'r rhaglen nag sydd wedi cael prawf coronafeirws positif yng Nghymru ers dechrau'r pandemig.

Dywedodd hefyd fod y gyfradd achosion dros saith diwrnod wedi gostwng i o gwmpas 270 i bob 100,000 o'r boblogaeth, sy'n "bron i 100 o bwyntiau'n is nag oedd wythnos diwethaf".

Ond er "bod pethau'n gwella", dywedodd bod hi'n "amhosib imi ddarogan heddiw" pa bryd fydd modd codi'r cyfyngiadau presennol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Pwysleisiodd Mark Drakeford unwaith yn rhagor mai brechu yw prif flaenoriaeth Llywodraeth Cymru

"Mae hwn wir yn gam ymlaen yn ein rhaglen frechu," meddai, wrth nodi fod dros 212,000 o bobl wedi derbyn eu brechlyn cyntaf hyd at ddydd Iau.

Yn 么l Iechyd Cyhoeddus Cymru mae 212,317 wedi derbyn eu brechlyn cyntaf ac mae 415 o bobl wedi cael ail ddos.

Yn y cyfnod 24 awr ddiweddaraf, cafodd 67 o farwolaethau'n gysylltiedig 芒 Covid-19 eu cofnodi ynghyd 芒 801 o achosion newydd.

Mae hynny'n dod 芒 chyfanswm y marwolaethau yng Nghymru i 4,459, a nifer yr achosion ers dechrau'r pandemig i 185,836.

Dywedodd Mr Drakeford fod mwy o glinigau nag erioed yn darparu brechiadau, mwy o feddygfeydd yn cynnig y brechlyn Rhydychen-AstraZeneca, a "bron i 1,000 o breswylwyr cartrefi gofal y diwrnod yn cael eu brechu".

Mae hyn, meddai, yn mynd ymhellach na'r cynlluniau a gyhoeddwyd bythefnos yn 么l wrth gyflymu'r rhaglen frechu ar draws Cymru a sicrhau mwy o gyflenwadau o'r brechlynnau.

Ffigyrau'n dal yn uchel

Gan gyfeirio ar y gostyngiad yn y gyfradd achosion yn yr wythnos ddiwethaf, dywedodd Mr Drakeford mai dyna'r achos yn ardaloedd "pob bwrdd iechyd, gan gynnwys gogledd Cymru ble mae'r straen heintus eithriadol o'r feirws wedi bod mor amlwg".

Ond fe ychwanegodd bod "y rhain yn dal yn gyfraddau uchel iawn ac mae o gwmpas 16% o brofion yn bositif, sy'n awgrymu bod yna dal lot o heintio o fewn y gymuned".

Gan fod y ffigyrau'n dal yn uchel, fe awgrymodd taw "ychydig iawn o le" fydd yna i ystyried llacio rhywfaint ar y cyfyngiadau presennol wrth eu hadolygu ddydd Gwener nesaf.

"Mae'n amhosib imi heddiw ddarogan y dyfodol," meddai, ond dywedodd mai'r "flaenoriaeth gyntaf fydd cael plant a phobl ifanc yn 么l i'r ysgolion a'r colegau".

Pynciau cysylltiedig