Gething yn 'obeithiol' o gyrraedd targed brechu
- Cyhoeddwyd
Mae Gweinidog Iechyd Cymru'n mynnu ei fod yn "obeithiol" y bydd modd cyrraedd targedau brechu rhag Covid-19.
Dywedodd Vaughan Gething bod "cynnydd sylweddol" yn nifer y dosau sy'n cael eu danfon i'r byrddau iechyd, a bod 20,000 wedi eu gyrru yn ddyddiol yn y dyddiau diwethaf.
Y nod yw sicrhau bod 70% o'r rhai dros 80 oed wedi cael eu dos cyntaf erbyn dydd Llun.
Yn y cyfamser, mae un bwrdd iechyd yn rhybuddio bod neges ffug ar y cyfryngau cymdeithasol wedi achosi i "niferoedd anferthol" fynd i ganolfan frechu heb apwyntiad.
Mewn datganiad ar Facebook ddydd Sadwrn, dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro: "Rydym yn cael ar ddeall for neges wedi'i rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol yn awgrymu, oherwydd i nifer ganslo apwyntiadau, bod unigolion dros 70 oed yn cael troi lan yng nghanolfan frechu Sblot heddiw i gael brechiad.
"Rydym nawr yn gweld niferoedd anferthol o ymwelwyr a chiwiau mawr ni allwn, yn anffodus, ddelio 芒 nhw.
"Bydd apwyntiadau ar gyfer pobl dros 70 yn dechrau o ddydd Mercher nesaf."
Mae dros 264,000 o bobl Cymru wedi derbyn eu dos cyntaf o'r brechlyn, yn 么l yr ystadegau diweddaraf.
Mae'r ffigyrau'n dangos fod 47% o bobl sy'n o leiaf 80 oed wedi cael eu brechu.
"Os yw'r cyflenwadau ar gael, fe allwn ni ddarparu niferoedd sylweddol o'r brechlyn," dywedodd Vaughan Gething wrth raglen 成人快手 Politics Wales.
"Mae hynny'n golygu, o'r herwydd, y dyliwn ni fod ar drywydd [cyrraedd y targed]."
Ychwanegodd, fodd bynnag, nad yw'n glir eto a fyddai'r tywydd yn effeithio ar y targedau brechu. Bu'n rhaid i bedair canolfan gau dros dro nos Sadwrn a dydd Sul oherwydd y tywydd yn ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg.
"Rwyf yn dal yn obeithiol y byddwn ni [yn cyrraedd y nod], er yr amhariad i drefniadau heddiw," meddai Mr Gething.
"Fyddwn ni ddim yn hollol si诺r am yr union effaith tan yn ddiweddarach yn y dydd."
Mwy o ganolfannau brechu
Ychwanegodd bod disgwyl y bydd pobl sy'n 80 oed neu'n h欧n fod wedi cael eu brechiadau cyntaf "yn y dyddiau nesaf, a byddwn ni'n gweld pobl dros 70 yn cael cynnig apwyntiadau yn ystod yr wythnos nesaf ymhob bwrdd iechyd."
Dywedodd hefyd bod rhagor o ganolfannau brechu'n agor yn yr wythnos nesaf, gan ddod 芒'r cyfanswm yng Nghymru i 45.
Ychwanegodd: "Byddwn hefyd yn darparu ail ddosau yn y dyfodol agos felly mae'r seilwaith yna'n bwysig."
Mewn ymateb i feirniadaeth Cymdeithas Feddygol y BMA yng Nghymru a chyrff eraill bod bwlch o 12 wythnos rhwng y ddau ddos "yn hollol annerbyniol ac, o bosib, yn beryglus", mynnodd Mr Gething bod Llywodraeth Cymru'n dilyn cyngor arbenigwyr iechyd.
"Gallwch roi lefel uchel o amddiffyniad gyda dos cyntaf, ac rydych yn dewis rhwng rhoi amddiffyniad ardderchog i nifer lawer llai o bobl trwy roi dau ddos iddyn nhw, neu gr诺p lawer mwy o bobl gyda lefel uwch o amddiffyniad trwy roi dos unigol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2021