成人快手

Degau yn heidio i Fannau Brycheiniog yn y cyfnod clo

  • Cyhoeddwyd
Cars parked at Pen y FanFfynhonnell y llun, Robert Melen Photography
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd degau o geir wedi parcio bob ochr y ffordd ger Bannau Brycheiniog ddydd Llun

Daeth tyrfa o bobl i Fannau Brycheiniog ddydd Llun a hynny er bod Cymru gyfan mewn cyfnod clo.

Roedd yr ardal wedi cael ychydig o eira dros nos.

Mae nifer o rybuddion melyn y Swyddfa Dywydd mewn grym ar draws Cymru yn ystod y dyddiau nesaf.

Ddydd Mawrth mae rhybudd melyn o eira a rhew yn y gogledd ddwyrain, canolbarth Cymru a'r dwyrain.

Ddydd Mercher a ddydd Iau mae rhybudd melyn o eira a rhew ar draws de Cymru.

Ffynhonnell y llun, Robert Melen Photography
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cerddwyr yn cerdded Pen y Fan ddydd Llun

Ffynhonnell y llun, John Meredith
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yr eira ar y mynyddoedd ger Y Fenni ddydd Llun

Ffynhonnell y llun, Gareth Thomas
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Eira uwchben Rhondda Fach ddydd Llun