Lle i enaid gael llonydd: Emma Walford
- Cyhoeddwyd
Mae Emma Walford yn cyd-gyflwyno rhaglen newydd yn fyw bob bore dydd Gwener ar 成人快手 Radio Cymru gyda Trystan Ellis-Morris, gan gychwyn ar 20 Tachwedd. Yma, mae'r gyflwynwraig a'r gantores yn trafod y lle sy'n rhoi llonyddwch meddwl iddi, yn agos at ei chartref ym Mro Morgannwg:
"Dwi'n mynd am dro i glirio 'mhen!"
Dyma eiriau dwi'n si诺r bod nifer ohonon ni wedi deud neu clywed dros yr wythnosau a misoedd dwethaf wrth i ni gyd addasu a cheisio dod o hyd i ffyrdd o ymdopi gyda'r byd rhyfedd 'da ni'n byw ynddo ar hyn o bryd.
A heb os y ffordd ora' i lonyddu fy enaid i ydy drwy gerdded. Rwy'n ffodus o fyw ym Mro Morgannwg ac felly mae milltiroedd o lwybrau cerdded i'w dilyn a dwi'n cael cwmni ffyddlon ar bob cam o'r daith gan fy nghi, Lili.
Weithiau wrth gerdded rwy'n cymryd y cyfle i wrando ar gerddoriaeth neu bodlediad, ond gan amlaf mae'r llonyddu gorau yn digwydd mewn distawrwydd.
Rwyf wrth fy modd yn cerdded i ddyfnderoedd y goedwig leol, rhyfeddu at fyd natur, gwrando ar s诺n yr adar ac wrth wneud, anadlu'n ddwfn a llenwi fy ysgyfaint ag awyr iach.
Wrth grwydro ymhellach fe ddown ni at y m么r a gobaith parhaol y gorwel pell yn tawelu'r meddwl, yn llonyddu'r enaid ac yn cryfhau y ffydd y bydd popeth yn iawn.
Hefyd o ddiddordeb: