成人快手

Lle oeddwn i: Emma Walford ar lwyfan Steddfod '89

  • Cyhoeddwyd

Roedd y gantores a'r cyflwynydd, Emma Walford, yn ddisgybl 15 oed yn Ysgol y Creuddyn pan gafodd un o'r prif rannau yn y sioe ieuenctid yn Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Conwy yn 1989.

Yma, wrth iddi baratoi i berfformio gyda'r band Eden yn Gig y Pafiliwn, nos Iau 8 Awst, mae Emma'n hel atgofion am ei phrofiad cyntaf yn perfformio ar lwyfan y brifwyl, 30 mlynedd yn 么l.

O'n i 15 oed, a ges i ran Elen yn y sioe yn chwedl Cae Melwr. O'n i'n dywysoges, ac yn chwarae gyferbyn 芒 bachgen o ysgol Dyffryn Conwy, o'r enw Gwynedd Parry. Fi a fo oedd y love interests.

O'dd o'n andros o brofiad. O'dd o'n od achos o'dd 'na gymysgedd o ysgolion gwahanol, so o'n i'n trafeilio n么l a 'mlaen o Abergele i Lanrwst. 'Nathon nhw dair chwedl, ac o'dd o'n rhoi cyfle i gymaint o blant i fod ar lwyfan o flaen cynulleidfa ac i gymdeithasu gyda'i gilydd.

Mi ges i glyweliad. Do'n i 'rioed wedi cael clyweliad o'r blaen, felly roedd hynny'n dipyn o beth.

Cyn hynny o'n i wedi bod yn g'neud sioeau yn yr ysgol, ond o'dd hwn yn teimlo fel lefel arall, yn arbennig achos bo' ti wedi gorfod cael clyweliad, a g'neud efo plant o ysgolion eraill, felly oddat ti allan o dy comfort zone.

Mae fy merch i r诺an yn gneud lot o stwff fel hyn, drwy'r Urdd a thrwy'r Steddfod, ond 30 mlynedd yn 么l, do'n i ddim yn cael gymaint o gyfleon, felly o'dd o'n teimlo'n rhywbeth eitha' mawr i fod yn rhan ohono fo.

Disgrifiad,

Emma Walford yn y sioe ieuenctid, Eisteddfod 1989

O'n i'n gneud lot yn yr ysgol, yn enwedig efo Steddfod yr Urdd - dim jest fel unawdydd, ond hefyd deuawd, part茂on, c么r, dawnsio gwerin - y job lot.

A lot o sioeau - roedd yr adran ddrama a cherdd yn gry' iawn yn Ysgol y Creuddyn, ac o'ddan ni'n cael lot o brofiadau yn fan'na.

Os oeddet ti fel fi ac yn mwynhau perfformio, ac yn llwyddo i gael un o'r prif rannau, ac yn mynd ymlaen i gael gyrfa yn y maes, yna gr锚t.

Ond o'dd o'n fwy na hynny. Dwi'n meddwl fod y profiad o berfformio yn helpu efo gymaint o wahanol swyddi y dyddiau yma. Mae'n rhywbeth y dylai pob plentyn gael y cyfle i'w 'neud, rili.

Ffynhonnell y llun, Emma Walford
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Emma a Gwynedd flas ar fod yn s锚r teledu am y tro cyntaf ychydig o fisoedd ar 么l eu perfformiad yn y Steddfod, drwy ymddangos ar Noson Lawen

Pan dwi' edrych yn 么l... do'n i ddim yn blentyn hyderus - falle mod i'n ymddangos felly, ond do'n i ddim tu fewn a do'n i ddim wir yn credu 'dwi am fod yn enwog achos dwi mor gr锚t'. Ond yn sicr, 'nath o roi bach mwy o hyder, bach mwy o brofiad i mi.

Ar 么l gneud Lefel A, es i 'mlaen wedyn i'r coleg i wneud drama. Ond eto, do'n i ddim yn credu yn fy hun ddigon i fynd i goleg drama, felly es i i astudio Drama a Ieithyddiaeth. Do'n i ddim yn creud bo' fi'n gallu 'neud o.

O edrych yn 么l, dwi'n difaru, a ddylwn i fod wedi cael digon o hyder a jest ei 'neud o, ond dydan ni gyd yn edrych n么l a difaru weithia'?

Wedi d'eud hynny, yn y sioe, o'n i'n gorfod canu, actio a dawnsio, ac wrth gwrs, dawnsio oedd y gwendid - dydi o ddim yn dod yn naturiol i mi.

Dwi'n gorfod gneud lot o ddawnsio efo Eden heddiw ond dydw i bendant ddim yn ddawnswraig, ac mae hynny'n eitha' amlwg!

Dwi'n cael get away efo fo yn Eden yr hyna' dwi'n mynd - jest drwy roi winc bach i'r gynulleidfa, cystal 芒 deud 'dwi'n gwybod...'!

Ffynhonnell y llun, Eden
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Eden yn perfformio yn Gig y Pafiliwn gyda Diffiniad a Lleden

Trideg mlynedd yn ddiweddarach, dwi'n mynd yn 么l i Lanrwst ac yn perfformio ar lwyfan y Pafiliwn eto, efo Eden ar y nos Iau. Waw!

Mae fy merch i yn mynd i Maes B eleni (fydda i'n aros yn agos iawn at Maes B, jest rhag ofn...!) ac mae hi'n excited iawn i ddod i weld Eden, diolch byth.

Dwi ddim wedi dechra'i embarasio hi eto, ond dwi'n meddwl fod y ffin yn dena' - mae ganddon ni shelf-life dwi'n meddwl...!

Mwy o newyddion a straeon o'r Eisteddfod Genedlaethol ar wefan 成人快手 Cymru Fyw

Hefyd o ddiddordeb: