'Pop pur' ar lwyfan y Pafiliwn 2019
- Cyhoeddwyd
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi datgan pwy fydd yn perfformio yn y gig ym Mhafiliwn y Maes ar Nos Iau, 8 Awst, ac yn ei ddisgrifio fel "noson o bop pur".
Mae'r bandiau poblogaidd o'r 90au, Diffiniad ac Eden, yn dychwelyd i'r Eisteddfod eleni.
Hefyd yn perfformio, fydd Lleden - sydd yn perfformio fersiynau modern o hen glasuron Cymraeg - felly bydd yna'n sicr ddigon o nostalgia ar y noson. Cerddorfa'r Welsh Pops fydd yn cyfeilio, gyda Huw Stephens yn llywio'r noson unwaith eto.
Yn ôl Ian Cottrell o Diffiniad, bydd hwn yn brofiad go wahanol i'w perfformiad ar Lwyfan y Maes ³ÉÈË¿ìÊÖ Radio Cymru ar nos Wener Eisteddfod Caerdydd y llynedd. Cyn hynny, doedd y band ddim wedi perfformio gyda'i gilydd ers 2001.
"Roedd y pwysau i gyd arnom ni llynedd o flaen 7,000 o bobl yn y bae, ond y tro yma gyda'r gerddorfa 'da ni jest yn teimlo'n gyffrous."
Sŵn y peiriannau dryms ac allweddellau sydd fel arfer yn cael ei gysylltu gyda Diffiniad, felly beth sy'n apelio am chwarae gyda cherddorfa?
"'Da ni erioed wedi cael cyfle i chwarae efo cerddorfa o'r blaen," meddai. "Y peth dwi'n edrych ymlaen ato fwyaf ydi clywed y gerddorfa yn chwarae'r caneuon dawns a pop.
"'Da ni eisiau creu argraff, cael parti mawr a gwneud rhywbeth gwahanol".
"Fe chwaraeon ni lot efo Eden yn y 90au ac ysgrifennu caneuon ar eu cyfer nhw. 'Da ni gyd o Glwyd felly 'da ni'n ffrindiau da hefyd," meddai.
Dyma'r pedwerydd tro i gig y pafiliwn gael ei gynnal, ac mae wedi datblygu i fod yn un o nosweithiau mwyaf poblogaidd yr Eisteddfod.
"Ar ôl tair blynedd o fandiau gitâr mae'n syniad da cael grwpiau pop," meddai Ian. "Dydi pop ddim wastad yn cael ei ddathlu yn y Gymraeg ond y prawf ydi fod y caneuon wedi para'. Mae rhai o'n caneuon yn 25 oed!"
Y llynedd, sain reggae Geraint Jarman oedd y prif atyniad yn y gig ar lwyfan y Pafiliwn, er mwyn nodi'r Steddfod yn y Ddinas.
Caniatáu cynnwys Facebook?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Facebook. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Hefyd o ddiddordeb: