成人快手

Canllaw Covid-19: Gwelwch un neu ddau berson yn unig

  • Cyhoeddwyd
TeuluFfynhonnell y llun, Getty Images

Fe ddylai pobl gyfyngu eu hunain i weld un neu ddau o ffrindiau neu deulu yn unig wedi 9 Tachwedd, medd Llywodraeth Cymru.

Mae cyngor ar reolau Covid-19 sy'n dechrau ar ddiwedd y cyfnod clo byr yn annog pobl i fod yn ochelgar.

Daw'r canllaw wedi i Iechyd Cyhoeddus Cymru gyhoeddi bod 1,272 o achosion newydd o Covid-19 wedi eu cadarnhau yng Nghymru dros y 24 awr diwethaf. Mae cyfanswm o 56,927 o bobl bellach wedi cael eu heintio.

Cofnodwyd 30 yn rhagor o farwolaeth gyda coronafeirws. Erbyn hyn mae 1,969 o bobl wedi marw gyda Covid-19 yng Nghymru ers dechrau'r pandemig, ac mae Iechyd Cyhoeddus Cymru'n cydnabod y gallai'r gwir ffigwr fod yn sylweddol uwch.

"Mae'n well gweld yr un un neu ddau o bobl yn rheolaidd na gweld llawer o wahanol bobl yn achlysurol," meddai'r canllawiau newydd.

Pedwar o bobl mewn un gr诺p ddylai fod y nifer uchaf posibl yn y mwyafrif o sefyllfaoedd y tu allan i'r cartref, ac "nid targed" i anelu ato.

Fe fydd modd ffurfio swigen aelwydydd newydd oherwydd bod "y llechen yn cael ei sychu'n l芒n i bob pwrpas".

Ar 么l y cyfnod clo presennol, bydd rheolau ledled Cymru yn disodli'r rhwydwaith o gyfyngiadau lleol oedd yn bodoli cyn 23 Hydref.

Nid oes terfyn cyfreithiol ar ba mor bell y gall pobl deithio yng Nghymru.

Fe fydd modd creu swigen aelwydydd gyda theuluoedd yn Lloegr, cyhyd 芒 bod hynny'n cael ei ganiat谩u o dan reolau Lloegr.

Nid yw croesi'r ffin i ymweld 芒 theulu a ffrindiau yn Lloegr sydd tu allan i'r swigen yn cael ei ganiat谩u "er ein bod yn gobeithio gallu eich croesawu yn y dyfodol agos".

Nid yw plant dan 11 oed yn rhan o'r nifer o bedwar sydd yn cael ei ddisgrifio fel yr uchafswm delfrydol mewn gr诺p.

"Fodd bynnag, uchafswm yw hwn ac nid targed - y lleiaf y nifer o bobl sy'n casglu - yr isaf yw'r risg", meddai'r ddogfen.

Mae'n ychwanegu "y gallwch chi, mewn theori, amrywio'r bobl rydych chi'n cwrdd 芒 nhw, ond rydyn ni'n gofyn i chi os gwelwch yn dda geisio cyfyngu eich hun o ran faint o wahanol bobl rydych chi'n eu gweld".