成人快手

Rhai o glybiau Uwch Gynghrair Cymru'n wynebu dyfodol ansicr

  • Cyhoeddwyd
BalaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rhai o ffyddloniaid Y Bala yn gwylio'u t卯m o bellter ym Maes Tegid ar 30 Medi

Mae rhai clybiau ym mhrif adran b锚l-droed Cymru yn ofni na fyddan nhw'n gallu gorffen y tymor heb gefnogaeth ariannol ychwanegol.

Mae gemau Uwch Gynghrair Cymru - neu'r JD Cymru Premier - wedi cael eu chwarae y tu 么l i ddrysau caeedig ers mis Medi oherwydd y pandemig.

Mae Clwb P锚l-droed Tref Caernarfon - sy'n cael tua 拢3,000 y g锚m o gael cefnogwyr drwy'r giatiau - wedi galw'r sefyllfa yn un "bregus".

Dywed Llywodraeth Cymru fod cynlluniau i gynnal digwyddiadau awyr agored gyda thorfeydd wedi cael eu gohirio.

Mae Cymdeithas B锚l-droed Cymru'n gobeithio y gall cefnogwyr ddychwelyd "yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach".

Dywed y corff fod pob clwb wedi cael grant o 拢20,000 - ond eu bod nhw hefyd fel Cymdeithas yn dioddef yn ariannol.

'Lwcus' i bara tan Ionawr

Dywedodd Paul Evans, cadeirydd Caernarfon: "Heb unrhyw arian wrth y gi芒t mae'n mynd i fod yn anodd iawn i ni.

"Mae'n sefyllfa fregus iawn ar hyn o bryd."

Mae'r clwb yn gobeithio gallu parhau i chwarae tan fis Ionawr "os ydan ni'n lwcus", ond mae Mr Evans yn rhybuddio: "Allwn ni ddim para tan ddiwedd y tymor os ydan ni'n chwarae 32 g锚m."

Ychwanegodd: "Dwi'n teimlo y dylai'r Gymdeithas (CBDC) ein cefnogi fel clybiau.

"Maen nhw wedi ein gorfodi i chwarae o dan yr amgylchiadau yma ac mae yna gyfrifoldeb i'n helpu ni allan yn ariannol."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ymosodwr Y Bala, Chris Venables ydy prif sgoriwr Uwch Gynghrair Cymru y tymor hwn

Derbyniodd clybiau'r Gynghrair Genedlaethol yn Lloegr - ble mae Wrecsam yn chwarae - grant brys i'w galluogi i ddechrau'r tymor newydd.

Mae ysgrifennydd Clwb P锚l-droed Tref Aberystwyth, Thomas Crockett, yn gobeithio y bydd clybiau Cymru'n derbyn arian o ganlyniad.

'Amser ariannol anodd i glybiau a'r Gymdeithas'

Dywed Gwyn Derfel, rheolwr JD Cymru Premier, fod 拢20,000 wedi'i roi i glybiau'n barod.

Pan ofynnwyd iddo pa mor obeithiol oedd y bydd cefnogwyr yn gallu dychwelyd yn fuan, dywedodd: "Rydyn ni'n dal i weithio gyda Llywodraeth Cymru yn y gobaith a fydd yn newid yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach.

"Ond rydyn ni'n ymwybodol o'r problemau ariannol sy'n wynebu clybiau, fel y Gymdeithas ein hunain - sy'n ddibynnol ar 90% o'n hincwm yn cael ei chynhyrchu gan y t卯m cenedlaethol.

"Ond oherwydd nad yw cefnogwyr yn cael mynd i mewn i'n gemau rhyngwladol yna rydyn ni fel Cymdeithas yn edrych ar ddiffyg o 拢3m. Felly mae'n amser ariannol anodd i glybiau a'r Gymdeithas fel ei gilydd."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae cynlluniau i ehangu ar gynllun peilot ar gyfer digwyddiadau awyr agored i gynnwys gwylwyr wedi'u gohirio - mae sefyllfa iechyd y cyhoedd yn cael y flaenoriaeth.

"Cyn gynted ag y bydd yn ddiogel ailgychwyn p锚l-droed yn y gwahanol gynghreiriau yng Nghymru, byddwn yn gwneud hynny.

"Mae iechyd a diogelwch chwaraewyr, swyddogion a'r cyhoedd yn hollbwysig ac nid ydym am beryglu hynny."