成人快手

Trafod a ddylid cosbi pobl am fethu 芒 hunan-ynysu

  • Cyhoeddwyd
Heddlu

Bydd Llywodraeth Cymru'n "atgyfnerthu'r drefn gorfodi" yn erbyn pobl sydd ddim yn hunan-ynysu pan ddylen nhw os yw'r heddlu a'r cynghorau lleol yn credu bod hynny'n angenrheidiol, medd y Prif Weinidog.

Bydd trafodaethau'n cael eu cynnal yn ystod yr wythnos nesaf ynghylch y posibilrwydd o ddirwyon cyn yr adolygiad nesaf o'r cyfyngiadau coronafeirws yng Nghymru ddydd Gwener.

Ond mynnodd Mark Drakeford mai cam olaf fyddai cosbi, ac nid "man cychwyn".

Mae gweinidogion eisoes wedi cyhoeddi t芒l o 拢500 i bobl ar incwm isel sydd angen hunan-ynysu "fel nad ydyn nhw'n teimlo dan bwysau i fynd i'r gwaith".

Dywedodd Mr Drakeford fod niferoedd yr achosion yn y tair sir fwyaf diweddar i gael eu rhoi dan fesurau llymach - Torfaen, Castell-nedd Port Talbot a Bro Morgannwg - "yn cael eu gyrru gan yr un cyfuniad o ffactorau rydym wedi ei weld yn rhannau eraill de Cymru".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Mark Drakeford ddydd Sul fod Llywodraeth Cymru yn fodlon ystyried a oes angen mwy o bersau i'r heddlu

Ychwanegodd: "Mae yna drosglwyddo ar yr aelwyd, pobl sydd ddim yn ddigon gofalus ynghylch pethau syml fel pellter cymdeithasol, ac ymddwyn mewn ffyrdd sy'n galluogi'r feirws i ledu.

"Mae yna rai patrymau gwaith hefyd - pobl yn byw yn [ardal] un awdurdod lleol ac yn gweithio yn un arall, a'r feirws yn cael ei ledu fel'na hefyd."

Dan y cyfyngiadau lleol, mae pobl dal yn gallu teithio o'u sir eu hunain i fynd i weithio, ond mae Mr Drakeford yn rhybuddio "na ddylid defnyddio'r cyfle hwnnw i gymdeithasu, cymysgu gyda phobl eraill, mynd allan a gwneud pethau sy'n dod 芒 chi i gysylltiad gyda phobl eraill."

Golwg fanylach ar y darlun yn y gogledd

Ychwanegodd fod y sefyllfa'n parhau'n "gymysg" yng ngogledd Cymru.

Bydd Mr Drakeford a'r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething yn cwrdd ag arbenigwyr iechyd lleol yn y gogledd ddydd Llun i asesu'r sefyllfa'n fanwl, a cheisio deall beth sydd wrth wraidd yr ystadegau diweddaraf.

Bydd Mr Drakeford wedyn yn cwrdd ag arweinydd chwe awdurdod lleol y gogledd cyn diwedd yr wythnos.

"Os oes angen gweithredu, fe wnawn ni," meddai, "ond dyw'r sefyllfa ddim yn mor glir yna eto ag yw yn y de. Rwy' eisiau gwneud yn si诺r ein bod yn rhoi'r sylw dyledus iddo."

Wrth gael ei holi ar raglen Sunday Politics dywedodd Mark Drakeford "nad yw'n amhosib y bydd myfyrwyr yn gorfod aros mewn prifysgolion dros y Nadolig.

"Dwi ddim am atal myfyrwyr rhag teithio adref ond bydd yn rhaid i ni wynebu'r sefyllfa yn nes at yr amser," ychwanegodd.